Beirniadu papurau newydd

  • Cyhoeddwyd
Comisiynydd y Gymraeg, Meri HuwsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Meri Huws: 'Papurau newydd yn agosáu at fod yn hiliol'

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi beirniadu newyddiaduraeth ambell i bapur newydd ynghylch y Gymraeg, gan ddweud ei bod yn "hollol annerbyniol ... yn agosáu at fod yn hiliol".

Ddydd Llun cyhoeddodd y Daily Mail erthygl yn honni bod y Gymraeg yn arf gwleidyddol yn creu rhaniadau yng Nghymru, a bod yna ysgol yng Ngheredigion ble mae'n rhaid i ddisgyblion ofyn yn Gymraeg os ydynt am fynd i'r tŷ bach.

Roedd yr erthygl hefyd yn dweud y gallai'r Taliban ddysgu gwersi gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

'Anhygoel o anhapus'

Dywedodd Ms Huws wrth raglen CF99: "Dwi wedi fy siomi gan y math yna o newyddiaduraeth a buaswn i efallai'n annog pobl i beidio â darllen y papurau hynny sy'n defnyddio'r math yna o linell".

Pan ofynnwyd iddi a oedd camau pellach yn cael eu hystyried, dywedodd: "Rydyn ni'n ystyried beth ddylai'r camau fod, ry'n ni'n anhapus iawn ... yn anhygoel o anhapus gyda beth y'n ni wedi ei weld yn ystod yr wythnos yma.

"Dwi'n credu bod rhaid i ni symud yr ieithwedd hefyd, dyw hyn ddim yn orfodaeth, mae yna ddwy iaith yng Nghymru, ry'n ni'n wlad ddwyieithog ac mi ddylen ni i gyd yn ystod y blynyddoedd nesaf fod yn disgwyl cael gwasanaethau o safon uchel yn y ddwy iaith a dyna yw hanfod safonau.

"Mae yna drafodaeth ynglŷn â sut y'n ni'n delio gyda'r math yna o iaith sy'n cael ei weld mewn ambell i bapur ar hyn o bryd."

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb oddi wrth y Daily Mail.