'Cyfrifoldeb y cyflogwr'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na gyfrifoldeb ar gyflogwr i ddatblygu cyfleoedd defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle yn hytrach na chyfrifoldeb ar y gweithiwr i ddewis gweithio drwy gyfrwng yr iaith.
Dyna'r brif egwyddor sy'n cael ei hargymell yn adroddiad Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws wedi ymgynghoriad am safonau mewn perthynas â'r iaith.
Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hannog i osod yr argymhellion ar sail statudol "mor fuan â phosibl."
Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'r safonau.
Wrth gyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad dywedodd y comisiynydd: "Mae'r lefel uchel o ymateb a gafwyd i'r ymgynghoriad hwn, sef 261 o ymatebion, yn dangos yn glir bod yna ddiddordeb eang mewn safonau'n ymwneud â'r Gymraeg ac yn rhoi mandad i mi fel comisiynydd i gyflawni fy swyddogaethau yn y cyd-destun hwnnw.
"Rwyf wedi craffu'n fanwl ar yr ymatebion sydd wedi dod i law ac wedi ystyried unrhyw batrymau.
"Ar sail y sylwadau hyn, rwyf wedi diwygio'r safonau drafft."
'Diffyg uchelgais'
Ond dywedodd Sian Howys ar ran y mudiad iaith fod "diffyg uchelgais i wella sefyllfa'r Gymraeg mewn nifer o ffyrdd, yn enwedig yn yr ardaloedd daearyddol lle mae'r Gymraeg wedi bod yn gryf yn draddodiadol.
"Mae'n dod yn fwy amlwg mai dyhead pawb yng Nghymru yw gwlad lle gallwn ni i gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg ac mai sicrhau cryfder cymunedau Cymraeg eu hiaith yw'r unig ffordd o wireddu'r weledigaeth honno.
"Dylai'r safonau, fel unrhyw strategaeth neu gynllun o ran yr iaith fod yn adlewyrchu hynny.
"Bydd gwir effaith y safonau i'w gweld pan fyddan nhw'n cael eu rhoi ar waith - a phrofiad dydd i ddydd pobl Cymru fydd yn dangos pa mor effeithiol y maen nhw."
Sefydlwyd fframwaith ar gyfer safoni gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a'r comisiynydd sy'n gosod safonau statudol ar sefydliadau ac yn rheoleiddio sut maen nhw'n dilyn y safonau.
Pum dosbarth
Mae yna bum dosbarth o safonau, cyflenwi gwasanaethau, llunio polisi, gweithredu, hybu a chadw cofnodion.
Cafodd nifer o safonau eu diwygio fel eu bod wedi eu geirio'n syml ac yn glir i'r defnyddiwr.
Dywedodd y comisiynydd: "Rwy'n annog sefydliadau cyhoeddus a phreifat i ddechrau cynllunio'u defnydd o'r Gymraeg yn awr.
"Gallant ddechrau drwy adnabod staff sy'n gallu cynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, mapio eu darpariaeth bresennol a datblygu gweithdrefnau ar gyfer y dyfodol fel bod modd iddynt gydymffurfio â safonau pan ddônt i rym."
Mewn llythyr at Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg â chyfrifoldeb am y Gymraeg, dywedodd y comisiynydd: "Er mwyn rhoi'r cyfle gorau posibl i sefydliadau i gynllunio a pharatoi at weithredu safonau, fe fydd yn bwysig iddynt wybod i sicrwydd beth yw'r safonau hynny.
"Rwy'n argymell felly y dylai gweinidogion ystyried fy adroddiad a mynd rhagddi i osod y pum dosbarth o safonau y cyfeirir atynt yn y mesur ar sail statudol mor fuan â phosibl."
261 o ymatebion
Daeth 261 o ymatebion i law. Derbyniwyd 107 o ymatebion gan sefydliadau cyhoeddus, 76 gan sefydliadau'r trydydd sector, 26 gan gwmnïau preifat a 52 gan unigolion neu gyrff o fath arall.
Roedd 102 o'r ymatebion wedi ysgrifennu yn Gymraeg, 120 yn Saesneg a 26 yn ddwyieithog.
Ac roedd dros 60% o'r rhai atebodd yr holiadur naill ai'n cytuno neu'n cytuno'n gryf â phob un o'r datganiadau ynglŷn â'r safonau.
Cynhaliodd y comisiynydd naw cyfarfod cyhoeddus drwy Gymru â phrif weithredwyr neu benaethiaid sefydliadau, swyddogion iaith ac aelodau'r cyhoedd.
Aeth dros 350 o bobl i'r cyfarfodydd hyn.
Mae dwy egwyddor yn sail i waith y comisiynydd - ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru a dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd8 Awst 2012
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012