Galw am beidio ag ailddarlledu Pobol y Cwm

  • Cyhoeddwyd
Mochyn daearFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2011 fe roddodd Llywdraeth Cymru y gorau i'r cynllun difa

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i S4C beidio â dangos ailddarllediad o Pobol y Cwm nos Iau.

Cafodd llythyr ei anfon at S4C a BBC Cymru, sy'n cynhyrchu'r rhaglen, yn honni bod y rhaglen nos Fercher yn groes i ganllawiau golygyddol.

Mae gweinidogion yn anfodlon am fod y rhaglen yn cynnwys trafodaeth am ddifa moch daear er mwyn rhwystro'r diciâu rhag lledu.

Dywedodd S4C y byddai'r rhaglen yn cael ei hailddarlledu am 6.30pm nos Iau. "Mae'r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o safbwyntiau," meddai llefarydd.

Deellir bod gweinidogion wedi gofyn i S4C beidio â chynnwys y rhaglen ar eu gwasanaeth Clic ar y we.

Rhwystredigaeth

Yn y rhaglen dan sylw mae un o gymeriadau'r gyfres yn cymryd rhan mewn trafodaeth ar y radio ac yn sôn am ei rhwystredigaeth ar ôl i'r clefyd gael ei ddarganfod mewn gwartheg ar ei fferm.

Dywedodd: "Mewn gwledydd sy' wedi gwaredu moch daear mae TB mewn anifeiliaid wedi gostwng yn sylweddol.

"Mae ffigyrau i brofi'r peth a fi'n ffaelu credu pam nad yw hynny'n ddigon o brawf i lywodraeth ni weithredu yn yr un modd.

"Nage jyst fi sy'n meddwl fel hyn, mae 'na lot o ffermwyr ar hyd a lled y wlad yn cytuno ..."

Mae'r llywodraeth wedi honni nad oedd y portread yn cytbwys ac felly ddim yn dilyn canllawiau'r BBC.

Dywedodd llefarydd: "Oherwydd pennod neithiwr rydym wedi anfon cwyn swyddogol at y BBC ac S4C gan ein bod yn credu bod canllawiau'r BBC ac Ofcom wedi eu torri.

"Rydym wedi gofyn i'r BBC ac S4C i gymryd camau cyflym ...

'Yn wallgof'

"Mae canllawiau golygyddol y BBC yn dweud bod angen delio â 'materion dadleuol' yn ddiduedd ... hefyd dylai mudiadau sy'n cael eu beirniadu gael cyfle teg i ymateb i honiadau ..."

Dywedodd Simon Thomas, AC Plaid Cymru: "Ar ddiwrnod pan mae Llywodraeth San Steffan am reoli'r wasg mae Llywodraeth Cymru'n dangos eu bod am reoli cynnwys rhaglenni.

"Mae hyn yn hollol wallgof.

"Roedd y bennod yn trafod y mater yn gytbwys, yn dangos bod dwy ochor i'r stori.

"Opera sebon yw hon nid bywyd go iawn."

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Rydym yn ymwybodol o'r llythyr ac yn ystyried y gwyn."

Mae'r ddadl am y cynllun difa ar gyfer moch daear wedi bod ymhlith y mwyaf tanllyd yng ngwleidyddiaeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diweddar.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol