S4C yn gwrthod cais i beidio ag ailddarlledu Pobol y Cwm

  • Cyhoeddwyd
Mochyn daearFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2011 fe roddodd Llywdraeth Cymru y gorau i'r cynllun difa

Mae S4C wedi gwrthod cais gan Lywodraeth Cymru i beidio â dangos ailddarllediad o Pobol y Cwm nos Iau.

Cafodd llythyr ei anfon at S4C a BBC Cymru, sy'n cynhyrchu'r rhaglen, yn honni bod y rhaglen nos Fercher yn groes i ganllawiau golygyddol.

Mae gweinidogion yn anfodlon am fod y rhaglen yn cynnwys trafodaeth am ddifa moch daear er mwyn rhwystro'r diciâu rhag lledu.

Dywedodd S4C y byddai'r rhaglen yn cael ei hailddarlledu am 6.30pm nos Iau. "Mae'r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o safbwyntiau," meddai llefarydd.

Deellir bod gweinidogion wedi gofyn i S4C beidio â chynnwys y rhaglen ar eu gwasanaeth Clic ar y we.

Rhwystredigaeth

Yn y rhaglen dan sylw mae un o gymeriadau'r gyfres, Cadno, yn cymryd rhan mewn trafodaeth ar y radio ac yn sôn am ei rhwystredigaeth ar ôl i'r clefyd gael ei ddarganfod mewn gwartheg ar ei fferm.

Dywedodd: "Mewn gwledydd sy' wedi gwaredu moch daear mae TB mewn anifeiliaid wedi gostwng yn sylweddol.

Disgrifiad o’r llun,

Yn y rhaglen dan sylw mae un o gymeriadau'r gyfres, Cadno, yn cymryd rhan mewn trafodaeth ar y radio

"Mae ffigyrau i brofi'r peth a fi'n ffaelu credu pam nad yw hynny'n ddigon o brawf i lywodraeth ni weithredu yn yr un modd.

"Nage jyst fi sy'n meddwl fel hyn, mae 'na lot o ffermwyr ar hyd a lled y wlad yn cytuno ..."

Mae'r llywodraeth wedi honni nad oedd y portread yn gytbwys ac felly ddim yn dilyn canllawiau'r BBC.

Dywedodd llefarydd: "Oherwydd pennod neithiwr rydym wedi anfon cwyn swyddogol at y BBC ac S4C gan ein bod yn credu bod canllawiau'r BBC ac Ofcom wedi eu torri.

"Rydym wedi gofyn i'r BBC ac S4C i gymryd camau cyflym ...

'Yn wallgof'

"Mae canllawiau golygyddol y BBC yn dweud bod angen delio â 'materion dadleuol' yn ddiduedd ... hefyd dylai mudiadau sy'n cael eu beirniadu gael cyfle teg i ymateb i honiadau ..."

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys: "Mae S4C bellach wedi derbyn copi o gwwyn Llywodraeth Cymru i'r BBC ynglŷn â stori ym mhennod neithiwr Pobol y Cwm.

"Rydym yn fodlon bod y ddrama yn cynnwys amrywiaeth o safbwyntiau sy'n adlewyrchu'r ddadl gyhoeddus am gynlluniau i gael gwared â'r diciâu mewn gwartheg.

"Fe fydd pennod neithiwr o'r rhaglen yn cael ei hailddarlledu fel arfer heno am 6.30 ar S4C, ac mae ar gael ar alw ar Clic."

Dywedodd llefarydd diwylliant y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black: "Rwy'n synnu bod Llywodraeth Cymru wedi cyffroi gymaint am opera sebon a dechrau taflu eu pwysau o gwmpas mewn ymdrech i dynnu'r rhaglen.

"Yn amlwg, does ganddyn nhw ddim parch tuag at y syniad o ryddid barn.

"Maen nhw'n ymddwyn fel bwlis, mae fel petai Malcolm Tucker o'r (comedi gwleidyddol) 'Thick of It' wedi symud i Fae Caerdydd."

'Chwerthinllyd'

Dywedodd llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr, Antoinette Sandbach AC: "Mae cais y Llywodraeth yn chwerthinllyd a dylid e i drin yn ddirmygus.

"Rwy'n dal i edrych ar fy nghalendr i wneud yn sir nad Diwrnod Ffŵl Ebrill yw hi."

Ychwanegodd y dylai Llywodraeth Cymru ymddiheuro wrth S4C am "ddiystyru ei hannibyniaeth olygyddol".

Dywedodd Simon Thomas, AC Plaid Cymru: "Ar ddiwrnod pan mae Llywodraeth San Steffan am reoli'r wasg mae Llywodraeth Cymru'n dangos eu bod am reoli cynnwys rhaglenni.

"Mae hyn yn hollol wallgof.

"Roedd y bennod yn trafod y mater yn gytbwys, yn dangos bod dwy ochor i'r stori.

"Opera sebon yw hon nid bywyd go iawn."

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Rydym yn ymwybodol o'r llythyr ac yn ystyried y gŵyn."

Mae'r ddadl am y cynllun difa moch daear wedi bod ymhlith y mwyaf tanllyd yng ngwleidyddiaeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diweddar.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol