'Gweithredwch argymhellion Leveson,' medd dioddefwyr
- Cyhoeddwyd
Mae rhai ddioddefodd oherwydd hacio wedi annog y llywodraeth i weithredu argymhellion Adroddiad Leveson yn llawn.
Galwodd yr adroddiad am safonau'r wasg am sefydlu corff annibynnol i oruchwylio papurau newydd.
Dywedodd yr Arglwydd Ustus Leveson fod angen hunan-reolaeth fwy llym er mwyn cynnal safonau.
Mae tystion yr ymchwiliad wedi lansio deiseb ar-lein.
Eisoes galwodd y gantores Charlotte Church, honnodd i'r wasg hacio ei ffôn am gyfnod hir, am weithredu'r argymhellion.
Pythefnos
Dywedodd ar raglen Question Time y BBC: "Dwi'n cytuno'n llwyr gydag Adroddiad Leveson."
Yn y cyfamser, dywedodd gweinidogion y byddai mesur drafft yn barod ymhen pythefnos.
Roedd yr adroddiad 2,000 o dudalennau wedi casglu bod y wasg weithiau wedi "achosi anhrefn ym mywydau pobl ddiniwed".
Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud ei fod yn poeni am sefydlu corff annibynnol a'i fod yn credu y bydd drafftio mesur yn profi na fyddai'n ymarferol.
Ond mae ei ddirprwy, Nick Clegg, am i ddeddf gael ei chyflwyno ar unwaith.
'Rhaid i ni newid pethau'
Ar y Post Cyntaf, dywedodd AS Maldwyn, Glyn Davies, ei fod yn gwrthwynebu deddfu.
"Dwi'n gwybod bod rhaid i ni newid pethau, rhaid i ni newid y diwylliant yn y wasg, ond dwi ddim eisiau gweld corff newydd gyda phwerau statudol i reoli".
Ychwanegodd nad yw gwleidyddion wedi cael pwerau dros y wasg ers yr 17eg ganrif, "a dydyn ni ddim eisiau mynd yn ôl at hynny."
Dywedodd ei fod yn cytuno gyda phopeth arall y dywedodd yr Arglwydd Ustus Leveson, ond heb wasg rydd ym Mhrydain byddai pethau fel helynt treuliau ASau heb ddod i'r amlwg.
'Byrbwyll'
Mae cyn brif gyfreithiwr y Daily Telegraph, Arthur Wyn Davies, wedi dweud y byddai unrhyw reolau statudol yn erydu rhyddid y wasg.
Wrth ymateb i gasgliadau adroddiad Leveson, dywedodd Mr Davies, oedd wedi cyflwyno tystiolaeth i'r ymchwiliad: "Fy mhrofiad i o'r PCC oedd eu bod nhw yn eithriadol o dda, a'u bod yn drwyadl iawn yn mynd trwy bob cwyn".
Dywedodd y byddai'n well cael "rhyw gyfundrefn newydd o hunanreolaeth sydd yn gwella ar beth sydd mewn lle yn barod".
Awgrymodd fod Leveson "wedi bod braidd yn fyrbwyll mewn ffordd" oherwydd bod yna achosion troseddol ar y gweill.
"Pam nad aros tan fod y broses gyfreithiol honno wedi ei chwblhau ac wedyn gweld os oes yna wendid yn y system?"
"Dwi'n deall yn hollol bod bobl gyffredin yn crefu am ryw fath o ddeddf ond y pwynt ydy mae yna lu o ddeddfau yn eu lle yn barod ... y broblem efo'r hacio oedd na wnaeth yr heddlu eu gwaith yn iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012