Cyngor Sir Ddinbych yn trafod codi mwy o dai yn y sir

  • Cyhoeddwyd
Ymgyrchwyr yn RhuthunFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwrthwynebwyr wedi cynnal nifer o gyfarfodydd cyhoeddus a ralïau

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ystyried cynllun i godi 1,000 o dai ychwanegol yn y sir fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol.

Derbyniodd y cyngor 280 o wrthwynebiadau i'r cynllun dadleuol.

Penderfynodd cabinet y cyngor sir ym mis Tachwedd y byddai'n rhaid i'r cyngor llawn bleidleisio ar y cynllun.

Roedd cyfarfod cyhoeddus wedi bod yn Ninbych yn gwrthwynebu'r cynlluniau.

Mae'r cabinet wedi dweud bod angen mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol amserol ar gyfer y sir a'u bod yn derbyn yr adroddiad a'r argymhellion a gafwyd fel ymateb i'r ymgynghoriad.

7,500 o dai

Yn ôl arolygwyr cynllunio, mae angen y cartrefi i ddiwallu anghenion y sir yn y dyfodol.

Mae rhai gwrthwynebwyr wedi dweud nad oes angen y tai ac y bydden nhw'n amharu ar gymunedau gwledig.

Roedd gan y cyngor darged blaenorol i godi 7,500 o dai ar 21 o safleoedd drwy'r sir, ar diroedd gwyrdd a brown.

Mae 67% o'r holl dai newydd sydd eisoes wedi eu codi ers cychwyn y cynllun datblygu lleol yn 2006 ar dir brown.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol