Llifogydd: Cynnig benthyciadau
- Cyhoeddwyd
Bydd y rhai ddioddefodd oherwydd llifogydd y gogledd yn medru manteisio ar fenthyciadau llog isel undeb credyd.
Cyhoeddodd Undeb Credyd Gogledd Cymru eu bod am ymestyn eu cynllun llog isel er mwyn helpu'r rhai o dan straen ariannol oherwydd y llifogydd.
Y gobaith yw y bydd y cynnig, y mae'r Aelod Cynulliad Ann Jones yn ei gefnogi, yn rhwystro pobl rhag troi at fenthycwyr anghyfreithlon sy'n codi llog uchel iawn.
Dywedodd John Killion, Cadeirydd Undeb Credyd Gogledd Cymru: "Gan ein bod wedi gweithio'n agos gyda dioddefwyr llifogydd am flynyddoedd, rydym yn deall yn iawn y difrod i gartrefi a'r oblygiadau ariannol.
"Yn wir, fe gafodd un o'n swyddfeydd ei sefydlu i ddelio ag effaith llifogydd ger arfordir y gogledd.
"Felly mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn agos at ein calonnau ers tro."
Mae'r mudiad - sydd â swyddfeydd yng Nghaernarfon, Dinbych, Llandudno, Prestatyn, Y Rhyl a Wrecsam - wedi creu cronfa fenthyciadau benodol i gefnogi'r cynllun.
Bydd yn cynnig benthyciadau gyda chyfradd llog o 5% ar gyfer gwaith trwsio, gan gynnig yswiriant bywyd ar bob benthyciad.
'Pryder'
Ychwanegodd Mr Killion: "Gobeithio bydd y gyfradd yn helpu'r dioddefwyr ddechrau ailadeiladu wedi difrod ofnadwy yr wythnosau diwetha'."
Dywedodd Ann Jones, AC Llafur Dyffryn Clwyd: "Mae hon yn enghraifft wych o gwmni cydweithredol yn ymateb yn gyflym i ateb anghenion pobl leol.
"O weld y golygfeydd diweddar, mae'n bryder gen i y bydd benthycwyr anghyfreithlon yn targedu'r rhai sydd angen cymorth ariannol.
"Er ei bod yn demtasiwn cymryd arian ychwanegol yn y tymor byr, gall yr oblygiadau fod yn ofnadwy.
"Os ydych angen cymorth ariannol, byddwn yn eich annog i gysylltu gyda'ch undeb credyd lleol am gyngor."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2012