Ymchwiliad i'r amddiffynfeydd rhag llifogydd
- Cyhoeddwyd
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymchwilio i achos y llifogydd yng ngogledd Cymru wrth i gwestiynau godi am yr amddiffynfeydd.
Roedd stad Glasdir yn Rhuthun ymhlith yr ardaloedd o dan ddŵr ddydd Mawrth.
Dywedodd rhai trigolion blin eu bod wedi cael sicrwydd na fyddai'r stad yn diodde' llifogydd.
Cafodd y tir yn Sir Ddinbych ei brynu gan y datblygwr Taylor Wimpey gan Lywodraeth Cymru, a dywedodd y cwmni eu bod wedi cael gwybod bod amddiffynfeydd rhag llifogydd ar y safle yn barod.
Sicrwydd
Mae'r stad yn gymharol newydd ac mae rhai cartrefi yn dal i gael eu codi yno.
Dywed rhai pobl leol eu bod yn gwybod bod yr ardal yn un allai ddiodde' llifogydd, ond eu bod nhw hefyd wedi cael sicrwydd bod yr amddiffynfeydd yn eu lle.
Ar y Post Cyntaf fore Iau dywedodd Huw Hilditch-Roberts, un o gynghorwyr sir Rhuthun, mai'r flaenoriaeth ar hyn o bryd oedd sicrhau bod yna gartrefi dros y Nadolig i bobl sydd wedi gorfod gadael eu tai yn Glasdir.
"Mae'n beryg iawn lluchio mwd o gwmpas. Mae'n bwysig bod y ffeithiau i gyd ganddom ni. Ond yr hyn sy'n bwysig ar hyn o bryd ydi helpu'r bobl sydd wedi diodde."
Dywedodd Carwyn Jones y byddai Asiantaeth yr Amgylchedd yn edrych yn fanwl ar sefyllfa'r amddiffynfeydd.
"Rhaid i ni adolygu ein hasesiad o'r risg o ystyried y patrwm o dywydd stormus sy'n dod yn fwyfwy cyffredin."
Ymateb yr adeiladwyr
Cafodd y tir yn Glasdir ei brynu drwy Awdurdod Datblygu Cymru, sydd ddim bellach mewn bodolaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Taylor Wimpey: "Fe gawsom ninnau hefyd sicrwydd y byddai'r amddiffynfeydd, a gafodd eu cynllunio a'u gweithredu cyn i ni brynu'r safle, yn gwneud eu gwaith.
"Rydym yn deall pryderon ein cwsmeriaid yn iawn, ac yn disgwyl ymchwiliad llawn gyda'r holl awdurdodau allweddol i ddarganfod pam na wnaeth yr amddiffynfeydd warchod y safle rhag y llifogydd.
"Rydym yn awyddus i fod yn rhan o'r ymchwiliad, ac fe fyddwn yn cydweithio'n llawn gyda'r awdurdodau er mwyn cael ateb cyflym."
Cyngor
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Ddinbych eu bod nhw hefyd yn edrych ar y mater gan eu bod nhw wedi chwarae rôl wrth gynllunio'r stad.
Pan gafodd caniatâd cynllunio ei roi i'r safle, roedd y ddogfen oedd yn amlinellu'r amodau ar y pryd yn dweud na ddylid "codi cartrefi nac adeiladau eraill y bydd pobl yn eu defnyddio ar y safle tan y bydd yr awdurdod cynllunio lleol, yn unol ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi cadarnhau yn ffurfiol ac yn ysgrifenedig bod y mesurau perthnasol wedi cael eu cwblhau'n ddigonol".
Dywedodd yr Asiantaeth eu bod wedi ymgynghori gydag awdurdodau lleol ar faterion llifogydd yn ystod ceisiadau cynllunio, a'u bod yn disgwyl i gynghorau ddilyn eu cyngor wrth wneud penderfyniadau.
Ychwanegodd: "Byddai'r awdurdod lleol wedyn yn gosod amodau yn eu cytundeb gyda'r contractwyr i leihau unrhyw risg, ac felly osgoi cael llifogydd ar unrhyw ddatblygiad newydd.
"Os ydym yn credu bod risg annerbyniol ar unrhyw ddatblygiad fe fyddwn yn cyfeirio ar Lywodraeth Cymru i alw'r cais i mewn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2012