Cyfarfod am ladradau cefn gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n cyfarfod â ffermwyr ar Ynys Môn oherwydd cyfres o ladradau o ffermydd yn ddiweddar.
Dywedodd undeb ffermwyr NFU Cymru fod yr eitemau gafodd eu dwyn yn cynnwys beiciau cwad, offer a thanwydd.
Bydd Swyddog Cefnogol Cymunedol yr Heddlu, Dennis Owen, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr achosion i'r ffermwyr yn Nhafarn y Rhos, Llangefni, nos Iau.
Mae ystadegau cwmni yswiriant NFU Mutual yn dangos bod lladradau yng nghefn gwlad Cymru wedi cyrraedd gwerth £2.3 miliwn yn 2011 o'i gymharu â £1.7m yn 2010, cynnydd o dros 30%.
Mwy costus
Yr hinsawdd economaidd a rhai nwyddau mwy costus sy'n cael y bai am y cynnydd gydag offer, tanwydd, cerbydau, olew a metel yn dargedau poblogaidd.
Yn gynharach eleni dywedodd Brian Walters, Is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, fod mwy o ddefaid wedi cael eu dwyn.
Ychwanegodd bod pris uchel tanwydd yn broblem gan ei fod yn rhoi "cyfle i ladron ddwyn rhywbeth sy'n werthfawr a weithiau yn hawdd ei ddwyn".
Mae'r cyfarfod ar Ynys Môn am 7:30pm nos Iau yn clywed barn pobl leol am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru am ddulliau cludo trydan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2012
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd29 Awst 2012