Ymgyrch cenedlaethol i daclo lladradau metel
- Cyhoeddwyd
Mae heddluoedd Cymru yn cydweithio i lansio ymgyrch cenedlaethol i daclo lladradau metel.
Gyda chynnydd ym mhris metel o ganlyniad i gynnydd mewn galw a diffyg cyflenwad, mae'r broblem o ddwyn metel wedi cynyddu drwy Gymru yn ddiweddar.
Mae nifer y lladradau o eglwysi wedi cynyddu pum gwaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Yn ôl y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Matt Jukes, ar ran Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu: "Yn groes i'r hyn mae rhai yn ei feddwl, mae achosion o ddwyn metel a cheblau yn effeithio ar bobl.
"Gall effeithio ar ein cymunedau ac achosi aflonyddwch i fywydau pobl gan gael effaith negyddol iawn ar wasanaethau cyhoeddus fel ysgolion, cyfathrebu, pŵer a chludiant."
Dywed Cyngor Torfaen fod dros 50 o achosion o ddwyn metel y llynedd wedi costio tua £136,000 i'r awdurdod.
Dim gwres
O ganlyniad, mae'r cyngor yn chwistrellu llifyn cemegol ar eu hadeiladau ac eiddo.
Mae 'na arwydd cemegol unigryw yn y SmartWater sy'n sicrhau bod eiddo yn gallu cael eu holrhain i berchennog neu leoliad.
Fis diwethaf, cafodd cannoedd o blant eu hanfon adref wedi i ladron ddwyn pibellau copr, gan achosi difrod mawr i system wresogi Ysgol Gyfun Llanhari ger Llantrisant.
Yn ôl cwmni Ecclesiastical Insurance, roedd llai na 10 achos o ddwyn metel yng Nghymru yn 2009, ond y llynedd roedd dros 50.
Dywed y cwmni yswiriant bod ceisiadau gan eglwysi yng Nghymru dros y pum mlynedd ddiwethaf yn cyrraedd cyfanswm o bron £400,000.
Mae'r heddluoedd yn cydweithio ag asiantaethau partner fel Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Asiantaeth yr Amgylchedd ac Awdurdodau Lleol, ynghyd â gweithwyr arbenigol o gwmnïau gwasanaeth fel British Telecom a Scottish Power er mwyn mynd i'r afael â'r broblem.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2011