Targedau aros pwysig cleifion canser yn cael eu methu

  • Cyhoeddwyd
Meddygon yn archwilio pelydr-xFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynnydd yn y nifer sy'n goroesi triniaeth canser

Dydi'r gwasanaeth iechyd ddim yn llwyddo i gwrdd â thargedau amseroedd aros pwysig cleifion canser er gwaethaf "cynnydd sylweddol" dros y flwyddyn ddiwetha' i wella gofal.

Dyna mae adroddiad blynyddol cyntaf Llywodraeth Cymru ar wasanaethau canser yn ei ddweud.

Gyda disgwyl y bydd 40% o bobl yn cael canser rhywbryd yn eu bywydau, dydi hi ddim syndod bod y gwasanaeth iechyd yn gwario mwy ar ofal canser nag ar unrhyw afiechyd arall.

Yn ôl Llywodraeth Cymru fe ddylai 95% o gleifion ddechrau cael triniaeth am ganser o fewn 62 diwrnod ar ôl gweld eu meddyg teulu.

Ond ar lefel Cymru gyfan dyw'r gwasanaeth iechyd ddim wedi llwyddo i gyrraedd y targed hwnnw ar unrhyw adeg ers 2008.

Disgrifiad,

Adroddiad Owain Clarke

'Mwy yn goroesi'

Yn ôl y Gweinidog iechyd, fe fydd mynd i'r afael â hynny yn flaenoriaeth fawr yn ystod flwyddyn nesaf.

Ond mae Lesley Griffiths yn mynnu fod gwasanaethau canser yn gyffredinol wedi gwella'n sylweddol a bod cyfradd y bobl sy'n goroesi ar ôl cael canser wedi cynyddu'n gynt yng Nghymru dros y 15 mlynedd ddiwethaf o'i gymharu ag unrhyw ran arall o Brydain.

Yn 2009 fe wnaeth 110,000 o bobl oroesi ar ôl cael triniaeth canser, erbyn 2016 mae disgwyl i'r ffigwr godi i 140,000.

Mae Adroddiad Canser Blynyddol Cymru Gyfan yn edrych ar gyflwr cleifion blwyddyn ac yna pum mlynedd ar ôl derbyn triniaeth.

Yn ôl yr adroddiad mae mesurau i atal canser hefyd yn gwella.

Dywed yr adroddiad fod tair ym mhob dynes sy'n gymwys yn cael eu sgrinio ar gyfer canser y fron.

Bron Brawf Cymru sydd a'r canlyniadau gorau drwy'r DU wrth ganfod y clefyd.

'Angen gwneud mwy'

Ymhlith pethau eraill mae'r adroddiad yn dangos

  • Cynnydd yn y nifer sy'n cael eu sgrinio ar gyfer canser coluddyn, gyda 400,000 o bobl wedi derbyn gwahoddiad o'r fath.

  • Fod y Gwasanaeth Iechyd i'w weld yn cyrraedd y targed fod 30% o gleifion yn rhoi caniatâd i roi samplau i Fanc Canser Cymru. Bydd hyn yn caniatáu rhagor o waith ymchwil wrth geisio dod o hyd i driniaethau.

Dywedodd Mrs Griffiths: "Mae gwaith caled staff y gwasanaeth iechyd a buddsoddiad newydd wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n goroesi canser o'i gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

"Serch hynny, canser yw'r clefyd sy'n lladd y rhan fwyaf o'n pobl, ac mae angen gwneud mwy. "

Dywedodd fod angen sicrhau bod y clefyd yn cael ei ddarganfod yn gynt.

Ar gyfartaledd bu farw 8,400 o bobl o ganser bob blwydd yng Nghymru rhwng 1995-2009.

Ond mae'r ffigyrau wedi bod yn gostwng dros gyfnod o 15 blynedd, a hynny ar gyfartaledd o 1% bob blwyddyn

Y mathau mwyaf cyffredin yw canser y fron, yr ysgyfaint, y coluddyn a'r prostad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol