Cyngor Sir Ddinbych i gynnal ymchwiliad annibynnol i achos llifogydd Rhuthun
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cadarnhau y bydd ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhuthun fis diwetha' yn cael ei gynnal.
Mae adroddiad gan Asiantaeth yr Amgylchedd, a gyhoeddwyd ddydd Mercher, yn dweud mai un ffactor allweddol oedd bod ceuffosydd yn llawn.
Ar raglen Post Cyntaf mae'r cyngor sir wedi derbyn cyfrifoldeb mai eu gwaith nhw ydi ac oedd clirio'r ceuffosydd ger stad tai newydd Galsdir.
Fe ddywedodd y cyngor y byddan nhw'n cynnal ymchwiliad annibynnol eu hunain a fydd yn adroddiad "mwy cynhwysfawr gan fod hynny yn ofyn statudol i ni wneud".
Ond mae'r cyngor yn dweud bod 'na sawl ffactor arall am y llifogydd.
Mae Aelod Cynulliad Gogledd Cymru, Aled Roberts, hefyd wedi galw am ymchwiliad annibynnol.
Cafodd bron iawn i bob un o'r 100 o dai yno eu difrodi gan y llifogydd fis Tachwedd.
'Cyfrifoldeb'
Mae'r stad yn dal i gael ei datblygu.
"Yn sicr cyfrifioldeb y cyngor ydi'r ceuffosydd ond mae'n bwysig nodi mai un ffactor ydi hyn yn yr holl ffactorau sydd 'na am y llifogydd," meddau Hywyn Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Sir Ddinbych.
"Rydym yn derbyn bod yr adroddiad yn nodi bod hynny yn un o'r ffactorau.
"Dwi ddim yn siŵr pam na chafodd y gwaith ei wneud ond rydym yn credu bod y ffosydd wedi cau am fwy nag un rheswm."
Dywedodd Mr Williams eu bod yn croesawu adroddiad yr Asiantaeth a'i fod wedi ei chynhyrchu yn fuan iawn.
"Yn sicr mae'n gymorth i ni siapio'r termau gorchwyl ar gyfer adroddiad mwy cynhwysfawr ac mae hynny yn ofyn statudol i ni wneud beth bynnag," meddai.
"Dyna oedden ni'n mynd i'w wneud cyn i adroddiad yr Asiantaeth gael ei gyhoeddi ac fe fyddwn ni'n gofyn i berson annibynnol arwain yr ymchwiliad yn y gynnar yn y flwyddyn newydd."
Ffactorau eraill
Ychwanegodd Mr Williams ei fod yn gobeithio y bydd yr adroddiad yn gallu ei gwblhau o fewn tri mis.
"Be sy'n bwysig ydi ein bod yn cael yr atebion cywir er mwyn gallu cynllunio ac arbed hyn ddigwydd eto.
"Efallai bod 'na lystyfiant na ddylai fod yna ond hefyd llystyfiant oedd wedi marw i fyny'r afon yn cael ei gario yn erbyn y griliau.
"Mae 'na sawl ffactor i ddylanwadu bod y ffosydd wedi methu.
"Mae Adroddiad yr Asiantaeth yn dweud, er mwyn i'r lefel yma o ddŵr gronni yn ochr y tai rhaid i'r ffosydd gau i lefel o 85%."
"Dwi ddim yn meddwl bod hynny wedi digwydd ac felly mae'n rhesymol meddwl bod 'na ffactorau eraill, fel oes 'na ddigon o ffosydd ar draws y ffordd, ydi graddiant y tir yn iawn ac mae'n rhaid ymchwilio yn iawn i hyn i gyd."
Dywedodd yr Aelod Cynulliad Aled Roberts ei fod yn croesawu'r ymchwiliad annibynnol a bod y cyngor wedi ymateb mor gyflym.
"Roeddwn i'n galw am ymchwiliad annibynnol ar ôl cyfarfod ges i efo trigolion lleol lle'r oedden nhw eisiau hyder bod rhywun annibynnol yn edrych ar y cyfrifoldebau a be sydd wedi digwydd.
"Mae'n glir o adroddiad yr asiantaeth bod gwahanol asiantaethau efo gwhanaol gyfrifoldebau ac mae'n briodol i ddangos mai nid trio osgoi cyfrifioldeb maen nhw ond gweld be sydd wedi digwydd a pa wersi sydd i'w dysgu.
"Mae angen i bobl Glasdir wybod bod popeth posib yn cael ei wneud a bod y tebygolrwydd i rywbeth tebyg ddigwydd yn y dyfodol ddim yna.
"Maen nhw eisiau gwybod a sicrwydd bod yr amddiffynfeydd yna a bod y gwaith cynnal a chadw yn cael ei reoleiddio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012