Tywydd yn achosi problemau
- Cyhoeddwyd
Mae peirianwyr wedi bod yn asesu'r difrod i 11 o gartrefi yn Ystalyfera yng Nghwm Tawe yn dilyn tirlithriad nos Sadwrn.
Fe wnaeth filoedd o dunelli o bridd lithro yn ardal Pant-teg yn sgil y glaw diweddar.
Mae rhai o drigolion y stryd yn dweud eu bod nhw wedi rhybuddio'r cyngor yr wythnos ddiwethaf bod y safle'n beryglus.
Yn ôl perchnogion cartrefi yn ardal Pant-teg, dylai Cyngor Castell-nedd Port Talbot fod wedi gwneud mwy i glirio'r cwteri a'r ffosydd er mwyn diogelu'r dibyn.
Ond ymatebodd John Flower, cyfarwyddwr amgylcheddol y cyngor, trwy ddweud eu bod "wedi monitro tirlithriad bach ar yr heol ond yr hyn a ddigwyddodd dros y penwythnos oedd dau lithriad arall mewn lleoliadau gwahanol ar hyd y ffordd".
Mae tri rhybudd llifogydd mewn grym gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, sef:-
Afon Rhydeg - Dinbych-y-pysgod;
Dyffryn Dyfrdwy isaf - rhwng Llangollen a Chaer;
Rhydeg yn Ninbych-y-pysgod.
Deng mil
Mae Dŵr Cymru'n gofyn i tua deng mil o gwsmeriaid yn ardal Caerfyrddin i ddefnyddio cyn lleied o ddŵr â phosib am y tro.
Nid yw'r bibell sydd wedi hollti ger Capel Dewi yn effeithio ar gyflenwadau ar hyn o bryd, ond dydi hi ddim yn glir pryd y bydd y difrod yn cael ei drwsio, er bod Dŵr Cymru'n addo gwneud hynny cyn gynted â phosib.
Fe allai hyn amharu ar y cyflenwad i'r ardaloedd canlynol: Abergwili, Abernant, Alltwalis, Bancyfelin, Blaen-y-coed, Bronwydd Arms, Caerfyrddin, Cynwyl Elfed, Ffynnonddrain, Glangwili, Horeb, Tre Ioan, Llandymddyfri, Llan-gain, Llangynog, Llanllawddog, Llanllwch, Llanpumsaint, Llansteffan, Meidrim, Peniel, Pontarsais, Rhydygaeau, San Clêr, Talog, Tanerdy, Trawsmawr, a Threfychan.
Mae'r tywydd hefyd yn achosi trafferthion i deithwyr, gyda theithiau trên rhwng de Cymru a Llundain yn cymryd 45 munud yn fwy oherwydd llifogydd yn ardal Swindon.
Mae'r Ras Genedlaethol Gymreig i geffylau oedd i fod i gael ei chynnal yng Nghas-gwent ar Ragfyr 27 wedi cael ei gohirio tan Ionawr 5 oherwydd bod y cae o dan ddŵr.
Carthffosydd
Mae Dŵr Cymru'n cydnabod nad ydi'r carthffosydd mewn rhai ardaloedd wedi medru ymdopi â'r holl law trwm diweddar, ond maen nhw'n dweud eu bod yn ceisio datrys y broblem. Roedd y cwmni'n ymateb i gŵyn benodol o ardal Cyffordd Llandudno, ble mae cynghorydd lleol yn dweud bod dŵr o garthffosydd yn dod i fyny i'r strydoedd.
Ac ym Mhontypridd bydd tai yn Ffordd Berw yn cael eu harchwilio ar ôl i wal ugain troedfedd o uchder ddymchwel o ganlyniad i bwysau'r dŵr yn y tir fore Sul gan adael tunelli o rwbel ar hyd y rhes chafodd neb ei anafu.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod wedi gadael y safle am 3am fore Sul.
Dywedodd David Craig, tad un o'r bobl sy'n byw yn Ffordd Berw ym Mhontypridd:
"Mae'r rwbel yn cyrraedd hyd at ffenest y llofft mewn rhai o'r tai.
"Wn i ddim sut na chafodd rhywun eu lladd."
Mae 'na rybudd i bobl fod ar eu gwyliadwraieth oherwydd y posibilrwydd y gallai rhagor o law achosi mwy o lifogydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2012