Dyn o Loegr yn siarad Cymraeg ar ôl dioddef strôc
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Loegr wedi dechrau siarad Cymraeg wedi iddo ddioddef strôc.
Bu Alun Morgan, 81 oed, yn faciwî yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond ni ddysgodd y Gymraeg tra oedd yno.
Wedi i Mr Morgan ddihuno yn yr ysbyty ar ôl dioddef ei strôc dim ond ei wraig, Yvonne, oedd yn gallu ei ddeall a bu'n rhaid iddi gyfieithu ar gyfer meddygon.
Dywedodd Mr Morgan o Bathwick, Caerfaddon yng Ngwlad yr haf wrth y Bath Chronicle nad oedd yn cofio dim byd ar ôl dioddef y strôc.
Affasia
"Ond ar ôl cyfnod fe ddechreuais siarad ychydig eiriau o Gymraeg," ychwanegodd.
"Roedd hyn yn od iawn oherwydd doeddwn i ddim wedi byw yng Nghymru ers imi fod yn faciwî yno yn ystod y rhyfel."
Cafwyd meddygon fod gan Mr Morgan affasia, anhwylder yr ymennydd sy'n effeithio ar iaith a chyfathrebu.
Mae'r cyflwr hefyd yn gallu achosi salwch o'r enw Syndrom Acen Estron sy'n achosi pobl i siarad ag acen o wlad arall.
Cafodd y cyflwr ei ganfod am y tro cyntaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan ddechreuodd menyw o Norwy oedd wedi dioddef niwed i'w ymennydd siarad ag acen Almaeneg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2012