Gosod carreg sylfaen canolfan gelfyddydau newydd
- Cyhoeddwyd
Mae carreg sylfaen canolfan gelfyddydau ac arloesi newydd gwerth £44m yng Ngwynedd wedi cael ei gosod i nodi dechrau'r gwaith adeiladu.
Leighton Andrews AC osododd y garreg yn ystod seremoni gerddorol ym Mangor ddydd Gwener.
Roedd aelodau Band Jazz a Band Pres Ysgol Tryfan, a'r unawdwyr Rhys Meirion a Huw Ynyr ymhlith y perfformwyr.
Bydd y ganolfan, sy'n cael ei hadeiladu gan Miller Construction, yn cynnig cyfleusterau ar gyfer cymunedau a busnesau lleol ac mae disgwyl iddi agor yn 2014.
Nod y ganolfan yw cynnal amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol, artistig a chymunedol a hyrwyddo cydweithredu, addysgu, a gwneud cyfraniad at adfywio Bangor.
£27.5m
Mae'r cynllun wedi cael £27.5m o arian cyfalaf oddi wrth Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop - a chyllid oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru a'r brifysgol ei hun.
Bydd yn cynnwys theatr newydd, theatr stiwdio, sinema, stiwdio ddylunio ac arloesi, cyfleusterau addysgu a dysgu, Undeb y Myfyrwyr, bar, caffi a mannau cyhoeddus.
Dywedodd yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: "Bydd y ganolfan yn ganolbwynt i'r gymuned leol ac i'r brifysgol.
"Bydd yn lle i gyfarfod, dysgu a chael eich diddanu, yn gartref i ymchwil, dylunio a dysgu arloesol ac yn lle unigryw a allai drawsnewid Bangor."
Dywedodd Mr Andrews: "Fel cyn fyfyriwr y brifysgol hon, mae gweld yr holl ddatblygiadau sydd wedi digwydd yn ystod y tri degawd diwethaf yn gyffrous iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2012