'Hafan i blant' sy'n cael eu bwlio ar y ffordd i ac o'r ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae siopau a busnesau yn Sir Ddinbych wedi cael cais i ddarparu "hafan ddiogel" i blant sy'n cael eu bwlio ar eu ffordd i'r ysgol, fel rhan o gynllun newydd.
Bydd gweithwyr ym Mhrestatyn yn cael hyfforddiant i'w helpu cefnogi disgyblion sy'n galw i mewn i siop wrth chwilio am help.
Mae'n rhan o ymgyrch a sefydliwyd 18 mis yn ôl i ddod ag ysgolion lleol, grwpiau cymunedol a'r heddlu ynghyd i fynd i'r afael â bwlio.
Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, ei fod yn gwneud "gwahaniaeth mawr".
Sefydlwyd y cynllun gan Ysgol Uwchradd Prestatyn, Canolfan Pop-In y dre' a gwasanaeth ieuenctid y sir.
Y nod yw sicrhau fod hyfforddiant a gwybodaeth am achosion o fwlio yn cael eu rhannu.
'Bregus'
Yn ôl Phil Pierce, pennaeth Ysgol Uwchradd Prestatyn, mae'n ymddangos fod y prosiect yn effeithiol a'r cam nesa' fydd sicrhau fod plant yn ddiogel wrth fynd yn ôl ac ymlaen i'r ysgol.
"Roedden ni'n teimlo eu bod yn ddiogel yn yr ysgol am fod gennym system ac roedden nhw'n iawn yn y Ganolfan Pop-In," meddai.
"Ond rhwng y lleoedd hynny doedd yna ddim system ac weithiau roedd plant a phobl ifanc yn fregus.
"Y syniad sydd gennym ydy gofyn am gymorth siopau a busnesau lleol ar y stryd fawr.
"Os yw plentyn yn ofnus ac yn poeni eu bod yn cael eu herlid gan grŵp neu'n cael eu bygwth mae modd iddyn nhw fynd i mewn i siop sy'n cefnogi'r cynllun.
"Byddwn yn archwilio cefndir gweithwyr ac yn eu hyfforddi fel eu bod yn gallu sicrhau bod plant yn cyrraedd adre' yn ddiogel ac yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth berthnasol i'r awdurdodau."
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai'r cynllun yn barod i'w weithredu fis nesa'.
'Angen gwneud rhywbeth'
Dywedodd Mr Pierce fod bwlio yn bwnc trafod llawer mwy amlwg mewn ysgolion ac yn y gymuned ers i'r cynllun gael ei lansio.
"Mae'r rhieni yn hapus iawn gyda'r cynllun ac mae'r plant yn siarad am fwlio all ond fod yn beth da.
"Rwy'n credu y dylai pob cymuned wneud rhywbeth tebyg.
"Dyw bwlio ddim yn fwy o broblem ym Mhrestatyn nag yn unrhyw fan arall ond roedden ni'n teimlo fod angen gwneud rhywbeth."
Ymhlith y sefydliadau a'r unigolion sy'n rhan o'r cynllun mae Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych, seicolegwyr addysgol, yr NSPCC, ChildLine a Barnardo's, ynghyd â'r Aelod Seneddol lleol Chris Ruane a'r Aelod Cynulliad Ann Jones.
Dychrynllyd
Yn ôl ChildLine, mae'r prosiect yn bwysig gan fod effaith bwlio ar blant ysgol yn anodd a dychrynllyd.
"Os nad ydym yn ymdrin â bwlio yn sydyn ac yn y modd cywir, gall y canlyniadau fod yn ddinistriol iawn," meddai llefarydd ar ran yr elusen.
Bydd Leighton Andrews AC yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Prestatyn ddydd Gwener i weld sut mae'r ymgyrch yn helpu pobl ifanc yr ardal.
Yn gynharach yn yr wythnos, fe lansiodd Mr Andrews app newydd o'r enw Wmff!, sy'n cynnig cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth i bobl ifanc am faterion fel bwlio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2011