BBC Cymru yn tynnu honiad o newid plot ysmygu yn Casualty yn ôl

  • Cyhoeddwyd
Golygfa o Casualty
Disgrifiad o’r llun,

Caiff Casualty ei ffilmio gan BBC Cymru yng Nghaerdydd

Mae BBC Cymru wedi ymddiheuro ac wedi tynnu eu honiad yn ôl, eu bod wedi gorfod newid stori ar raglen Casualty oherwydd y gwaharddiad ar ysmygu yng Nghymru.

Mae'r gorfforaeth bellach yn dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i ffordd arall o ffilmio'r olygfa o danio sigarét.

Roedd yr honiad yn rhan o dystiolaeth gafodd ei chyflwyno i bwyllgor yn y Cynulliad sy'n ystyried a ddylai' cynyrchiadau ffilm a theledu gael eu heithrio o'r gwaharddiad ysmygu, fel sy'n bodoli yn Lloegr.

Mae BBC Cymru wedi ymddiheuro am y camgymeriad ac wedi gofyn i gael addasu eu tystiolaeth.

Caiff y gyfres Casualty ei ffilmio yn stiwdio BBC Cymru ym Mhorth y Rhath lle mae ysmygu wedi ei wahardd o dan y ddeddf.

Dywedodd BBC Cymru, wrth ymddiheuro i aelodau'r Cynulliad, bod y dystiolaeth wedi ei roi yn gwbl ddidwyll ond iddo brofi'n ddiweddarach yn anghywir.

Mae llefarydd ar ran y gorfforaeth wedi dweud eu bod wedi ysgrifennu at aelodau'r pwyllgor i newid y dystiolaeth a roddwyd dydd Mawrth.

Dim newid i'r plot

"Yn y sesiwn roedd 'na gyfeiriad at achos ble bu'n rhaid anghofio am stori oherwydd cymhlethdodau ffilmio tanio sigarét," meddai.

"Er hynny, mae tîm cynhyrchu Casualty wedi tynnu ein sylw bod yr olygfa wedi ei ffilmio mewn modd gwahanol.

"I fod yn glir, doedd 'na ddim newid i blot y bennod dan sylw.

"Yng nghyd-destun cyflwyno'r ffeithiau yn gywir lle bo modd, rydym wedi gofyn i gadeirydd y pwyllgor dynnu sylw'r aelodau....ac wedi gofyn iddo am gyngor ar allu addasu ein tystiolaeth ysgrifenedig er mwyn adlewyrchu hyn ac ymddiheurwn am y camgymeriad."

Mae'r ACau yn rhanedig ar y mater o godi'r gwaharddiad ar setiau ffilm a theledu ac mae disgwyl iddyn nhw bleidleisio yn y gwanwyn.

Mae mudiadau fel Ash Cymru a Sefydliad y Galon wedi dweud wrth ACau nad ydyn nhw'n credu bod cyfiawnhad i godi'r gwaharddiad yng Nghymru a bod modd o addasu'r ffilmio heb ddefnyddio sigaréts go iawn.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol