Cyngor i gau dwy ysgol gynradd ym Mhowys?

  • Cyhoeddwyd
Plant mewn dosbarth (cyffredinol)

Bydd Cabinet Cyngor Sir Powys yn ystyried cais i gau dwy ysgol gynradd yn Sir Drefaldwyn yn ddiweddarach.

Bwriad swyddogion y cyngor yw cau ysgolion Carno a Llandinam am wahanol resymau, gan gynnwys y gost uchel o ddysgu pob disgybl a bod ganddynt ormod o leoedd gwag.

Ond mae rhieni plant yn Ysgol Carno, sy'n ysgol Gymraeg, yn honni y byddai cau'r ysgol yn cael effaith andwyol ar yr iaith a'r diwylliant yn yr ardal.

Mae cadeirydd llywodraethwyr ysgol Llandinam wedi datgan y byddai'n "anghrediniol" petai'r cabinet yn cymeradwyo'r cynllun.

Lleoedd gwag

Daw'r cais fel rhan o adolygiad ysgolion yn ardaloedd Machynlleth a Llanidloes a ddechreuodd yn 2010.

Dywed adroddiad, fydd yn mynd gerbron y Cabinet ddydd Mawrth, fod gan Ysgol Carno 37 o blant ar y gofrestr yn 2012 a bod gan Landinam 38 o blant.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl cadeirydd y llywodraethwyr, bydd gan yr ysgol 44 o blant erbyn diwedd y flwyddyn

Dywed adroddiad Myfanwy Alexander, yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am Ddysgu a Hamdden, fod Ysgol Carno wedi'i lleoli mewn adeilad dros dro ers 1995 a bod yr adeilad yn anaddas ar gyfer dysgu.

Yn ôl yr adroddiad, mae'r gost o addysgu pob disgybl yng Ngharno yn £4,208.

£4,255 yw'r gost o ddysgu bob plentyn yn Llandinam.

Dywed yr adroddiad fod hwn yn uwch na throthwy'r cyngor sir, sy'n ymestyn at 10% yn fwy na £3,603.

Yn ôl yr adroddiad, mae gan y ddwy ysgol leoedd gwag sy'n uwch na tharged y cyngor sir o 85% i 105%.

'Gwarchod y Gymraeg'

Y nod yw trosglwyddo disgyblion Ysgol Carno i Ysgol Llanbrynmair, sydd bum milltir i ffwrdd ac i drosglwyddo disgyblion Ysgol Llandinam i Ysgol Caersws, sydd dair milltir i ffwrdd.

Roedd Ysgol Llanbrynmair dan fygythiad hefyd ond, yn ôl yr adroddiad, "gellid dadlau y byddai cau dwy Ysgol Gymraeg mewn ardaloedd gwledig cyfagos yn andwyol i ddyfodol yr iaith yn y cymunedau hynny".

Mae Ieuan Stevens yn rhiant gyda phlentyn yn mynychu Ysgol Carno.

"Dim ond Saesneg dwi'n gallu siarad ond rwyf am i fy mhlant gael eu haddysg drwy'r Gymraeg.

"Erbyn hyn mae 46 o blant ar y gofrestr ac mae'r ysgol yn rhan ganolog o'r gymdeithas.

"Pe bai'r ysgol yn cau fe fyddai hynny'n cael effaith andwyol ar ddiwylliant Cymraeg yn yr ardal, yn ogystal ag effaith wael ar economi'r ardal fyddai'n effeithio ar y siop a thafarndai lleol.

Dywedodd cynghorydd sir yr ardal ac un o lywodraethwyr Ysgol Carno, Rachel Davies: "Rwy'n cefnogi'r ysgol ac rydym yn ceisio gwarchod yr iaith Gymraeg yn yr ardal."

Dywedodd Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Llandinam, Jean Carter, y byddai'n "anghrediniol" pe bai'r cabinet yn cymeradwyo cau'r ysgol.

"Mae'n debygol y bydd nifer y plant ar y gofrestr yn codi i 44 erbyn diwedd y flwyddyn, felly rydym yn meddwl fod gennym ni ddyfodol positif," ychwanegodd.

"Mae 34 o blant eraill sy'n llai nag oedran ysgol yn byw yn Llandinam felly rydym yn teimlo bod yr ysgol yn llwyddo."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol