EOS yn derbyn llythyr oddi wrth y BBC

  • Cyhoeddwyd
Logo EosFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na dros fis ers i EOS a'r BBC geisio dod i gytundeb ynglŷn â thaliadau i artistiaid

Mae EOS wedi derbyn llythyr yn cadarnhau y bydd y BBC yn mynd â'r corff i dribiwnlys hawlfraint er mwyn ceisio setlo'r anghydfod am freindaliadau.

Dywedodd y BBC eu bod wedi cynnig cyfrannu at gostau cyfreithiol EOS oherwydd y broses mynd i dribiwnlys.

Eisoes mae'r BBC wedi dechrau'r broses.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Yn amlwg, hoffen ni ddod i gytundeb heb wrandawiad tribiwnlys ...

"Ond os nad oes modd setlo'r mater yn barhaol drwy negydu ag EOS o fewn wythnosau byddai gwrandawiad tribiwnlys yn sicrhau y byddai'r dadleuon i gyd yn cael eu clywed ac y byddai modd cael penderfyniad teg a thryloyw am gyfraddau masanachol.

"Dyna pam y dywedon ni wrth EOS yr wythnos diwethaf y byddai proses y tribiwnlys yn dechrau yn gyfochrog â'r broses negydu."

Cyfarfodydd cyffredinol

Yn gynharach ddydd Mawrth awgrymodd un o aelodau bwrdd EOS y gallai cerddoriaeth aelodau'r corff trwyddedu gael ei chwarae eto ar donfeddi Radio Cymru tra bod y trafodaethau gyda'r BBC yn parhau.

Ers Ionawr 1 does gan BBC Radio Cymru ddim hawl i ddarlledu gwaith dros 300 o artistiaid sy'n aelodau o EOS oherwydd anghydfod am daliadau hawlfraint am eu gwaith.

Mae EOS yn cynnal cyfarfodydd cyffredinol blynyddol i drafod y ffrae gyda'r BBC ynglŷn â thaliadau i gerddorion, awduron a chyhoeddwyr, y cynta' yng Nghaerdydd nos Fawrth a'r ail yng Nghaernarfon nos Wener.

Er na fydd yna unrhyw bleidlais, dywedodd EOS fod y cyfarfodydd yn gyfle i'w haelodau fynegi barn.

Ar y Post Cyntaf fore Mawrth dywedodd Dafydd Roberts o EOS fod y ddwy ochr wedi bod yn trafod a llythyru'n gyson dros yr wythnos diwethaf.

"Mae'n bosib iawn y bydd cyhoeddiad cyn bo hir hwyrach bod modd adfer y gerddoriaeth i Radio Cymru tra ydan ni'n dal i drafod.

"Mae hynny yn opsiwn, yn sicr.

"Rydym wedi bod yn ildio tir drwy'r misoedd i gyd - dyna yw trafod, mae un ochr yn ildio ac mae'r llall yn ildio.

"Rydym yn bryderus wrth gwrs am Radio Cymru. Dydyn ni ddim isho gweld Radio Cymru yn colli gwrandawyr, felly rhan o'r trafodaethau yw adfer y gerddoriaeth tra bod y trafodaethau'n parhau.

"Radio Cymru yw'n radio cenedlaethol ni, ac rydym am sicrhau bod hwnnw'n parhau. Mae nifer o bethau'n digwydd cyn bo hir - Cân i Gymru, (Eisteddfod) yr Urdd ac yn y blaen - a 'dan ni ddim yn credu ei bod yn deg y byddai unrhyw un sydd wedi bod yn trefnu ers dwy flynedd yn colli'r cyfle i glywed perfformwyr ar y radio."

Cwtogi oriau

Mae EOS, sy'n cynrychioli tua 300 o gerddorion Cymraeg, am i'r BBC wella'r cynnig ynglŷn â thaliadau i gerddorion, awduron a chyhoeddwyr.

Ers Ionawr 1 eleni dyw Radio Cymru ddim wedi gallu chwarae dros 30,000 o ganeuon Cymraeg.

Bu'n rhaid iddyn nhw hefyd gwtogi oriau darlledu'r orsaf.

Mae caneuon Saesneg a cherddoriaeth glasurol ac offerynnol yn cael eu chwarae ar Radio Cymru ar hyn o bryd.

Llwyddodd EOS i ddod i gytundeb serch hynny gyda S4C cyn y Nadolig.

Mae cyfarfodydd cyffredinol EOS rhwng 6:00pm ac 8:00pm yng nghanolfan y Chapter yng Nghaerdydd nos Fawrth ac yn Galeri Caernarfon nos Wener.