Prisiau tai yn cynyddu yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Asiantaeth gwerthu taiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae prisiau tai wedi codi 3.3% ar draws y Deyrnas Unedig

Mae prisiau tai yng Nghymru wedi codi yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr diwethaf ond ar raddfa arafach na'r cyfartaledd ar draws Prydain.

Mae'r ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau yn dangos bod pris tŷ yng Nghymru wedi codi 2.4% ar gyfartaledd.

Ar draws y Deyrnas Unedig mae prisiau tai wedi codi 3.3%.

Cododd prisiau tai yn Lloegr 3.4% gan gynnwys cynnydd o 6.4% o ran prisiau tai yn Llundain.

Cododd prisiau tai 3.1% yn Yr Alban ond disgynnodd y raddfa 5.7% yng Ngogledd Iwerddon.

Ym mis Ionawr eleni cyhoeddodd cymdeithas Adeiladu'r Principality gynlluniau i gynyddu benthyca' ar gyfer morgeisi o 50% dros y pum mlynedd nesaf.

Ar fater prisiau tai, dywedodd eu prif weithredwr Graeme Yorston ei fod yn credu y byddan nhw'n sefydlog dros y flwyddyn i ddod wedi cwymp bychan y llynedd, ac nid oedd yn gweld cyfraddau llog i fenthycwyr yn codi dros y 18 mis neu ddwy flynedd nesaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol