Cyfreithiwr perchennog ffatri: Honiadau'n 'gamarweiniol'
- Cyhoeddwyd
Mae cyfreithiwr perchennog wedi dweud bod honiadau yn erbyn ffatri y mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ymchwilio iddi yng Ngheredigion yn "gamarweiniol".
Parhau mae ymchwiliad yr asiantaeth i weithgareddau cwmni Farmbox Meats yn Llandre ger Aberystwyth.
Dywedodd Aled Owen, cyfreithiwr y cyfarwyddwr Dafydd Raw-Rees, fod ei gleient yn gwadu ei fod wedi gwneud unrhywbeth o'i le.
Mae'r asiantaeth yn ymchwilio i honiadau fod cig ceffyl wedi cael ei roi mewn byrgyrs a chebabs yn lle cig eidion.
Nos Fawrth roedd yr asiantaeth wedi dweud eu bod yn atal y gwaith yn y ffatri ac mewn lladd-dy yn Todmorden yng Ngorllewin Sir Efrog.
Y gred yw bod y lladd-dy yn cyflenwi cyrff ceffylau i'r ffatri yn Llandre.
Mae'r heddlu a swyddogion yr asiantaeth wedi mynd â chig a gwaith papur, gan gynnwys rhestrau cwsmeriaid, o'r ddau safle.
Dywedodd Mr Raw-Rees fod ganddo hawl i dorri cig ceffyl ar y safle.
'O Iwerddon'
Eglurodd y perchennog fod ganddo drwydded i drin cig coch a'i bod wedi bod yn weithredol ers tair blynedd.
"Dwi wedi bod yn prosesu cig ceffyl ers tua tair wythnos a hanner.
"Mae'r cig yn dod o Iwerddon. Fe ddaeth llwyth y bore 'ma wrth i'r asiantaeth gyrraedd.
"Does 'na ddim wedi ei wneud yma sydd ddim yn cael ei ganiatáu."
Dywedodd nad oedd yn gwybod dim am ladd-dy Peter Boddy a'i fod wedi bod yn prosesu cig ceffyl ers rhyw dair wythnos a bod y cig yn dod o Iwerddon.
'Yn fodlon'
Dywedodd Alun Davies, Gweinidog Amaeth Cymru: "Dros y dyddiau diwethaf dwi wedi siarad sawl tro â Defra a dwi'n fodlon iawn fel mae'r llywodraeth yng Nghymru yn cydweithio gyda'r gwahanol gyrff.
"Mae'n bwysig cofio'r cyd-destun, bod y cig wedi dod i Landre o Sir Efrog, ac mae 'na ymchwiliad.
"Yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud fel llywodraeth yw cefnogi'r heddlu a'r FSA.
"Dwi'n awyddus fod pobl yn gallu parhau i fod â hyder yn y ffordd y caiff cig eidion ei brosesu ... a'i fod o'r safon ucha'."
Yn y cyfamser, mae Gweinidog Amgylchedd Llywodraeth Prydain, Owen Patterson, yn teithio i Frwsel i gyfarfod gweinidogion Ewropeaidd i drafod y sefyllfa.
Mewn cyfweliad gyda'r BBC nos Fawrth dywedodd ei bod hi yn "annerbyniol fod cwmnïau yn twyllo'r cyhoedd yn y fath fodd".
Ar Y Post Cyntaf fore Mercher dywedodd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad, fod rhaid erlyn os oes 'na gam-labelu wedi digwydd.
"Oes 'na drosedd wedi digwydd? Fe fydd rhaid erlyn a chael canlyniad.
'Yn iach'
"Ond yr hyn sy'n bwysig ydi bod pobl Cymru yn gwybod hyn - cig eidion o Gymru, cig oen o Gymru, hyd yn oed gig ceffyl o Gymru os ydach chi am ei fwyta, be ydach chi'n ei fwyta, mae'n iach a wnaiff o ddim drwg i chi.
"Mae cig oen a chig eidion o Gymru o safon Ewropeaidd am ei fod o ansawdd rhagorol ac wrth ofalu prynu cig safonol o Gymru, dyna gewch chi a does 'na ddim angen poeni.
"Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn cynnal ein hyder yn y diwydiant cig coch yng Nghymru a bod cwsmeriaid yn gwybod be maen nhw'n ei brynu wrth fynd i'r siop."
Yn y cyfamser, mae Cyngor Caerdydd wedi dweud y byddan nhw'n profi safonau bwyd yn y ddinas dros yr wythnosau nesaf, cam y mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi ei gymeradwyo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013