BBC yn holi perchennog Farmbox Meats Dafydd Raw-Rees
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog Farmbox Meats yn Llandre, Ceredigion, sy'n destun ymchwiliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd, wedi mynnu nad yw wedi gwneud dim o'i le.
Fe wnaeth Dafydd Raw-Rees, ganiatáu i'r BBC fynd i'r safle i weld beth sy'n mynd ymlaen yno.
Daw hyn ddiwrnod wedi i'r asiantaeth fynd yno ac i ladd-dy yn Sir Gorllewin Efrog wrth iddyn nhw ymchwilio i gam-labelu cig.
Roedd yr asiantaeth wedi dweud eu bod yn atal y gwaith ar y ddau safle nos Fawrth.
"Ond fel ti'n gweld, mae'r gwaith yn mynd ymlaen yma," meddai'r perchennog.
"Alla i ddim ychwanegu dim at hynny."
'Dim prosesu'
Roedd y gwaith yn gyfreithiol, meddai, a'r asiantaeth yn gwybod am y peth.
"Mae gen i gytundeb i dorri cig ceffyl ar gyfer cynhyrchydd o Iwerddon.
"Mae'r cig yn cyrraedd yma, yn cael ei dorri yma ac yna yn cael ei gludo i Wlad Belg.
"Dwi'n cael fy nhalu i wneud y gwaith torri. Does 'na ddim gwaith prosesu yma.
"Dwi ddim yn gwneud cebabs. Dwi ddim yn gwneud byrgyrs. Dydi fan hyn ddim yn ganolfan brosesu. Gwaith torri yn unig sydd yma."
Honnodd fod yr asiantaeth wedi cael eu hysbysu ers iddo gychwyn y gwaith tua thair wythnos a hanner yn ôl.
"Mae 'na ôl tystiolaeth papur llwyr. Pan mae'r cig yn cyrraedd o Iwerddon maen nhw'n cael gwaith papur.
"Maen nhw'n ymwybodol. I bigo arna i nawr dyw e ddim yn gwneud synnwyr mewn unrhyw ffordd.
'Ddim yn deall'
"Dwi ddim yn deall.
"Pa effaith fydde hyn yn ei gael ar unrhyw un? Dwi'n berson sy'n trio rhedeg busnes ac mae hon yn ergyd gas.
"Mae pobl yn barnu dros eu hunain.
"Os bydda i'n protestio, dwi'n protestio gormod. Alla i ddim gwneud mwy na dangos i chi a dweud beth ydi'r broses yma.
"Does 'na ddim cig eidion yma heddiw. Doedden ni ddim wedi ein hamserlennu i wneud hynny.
"Heddiw roedden ni'n gwneud gwaith cig ceffyl. Fe fydd y cig yn cael ei dorri, ei roi mewn bocs a'i anfon i ffwrdd.
"Fe fyddwn ni'n gwneud gwaith cig eidion ar ddiwrnod arall. Does 'na ddim llygredd o fath yn y byd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013