Cynllun i helpu pobl ifanc ar ffo i elwa o £543,000
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect i fynd i'r afael â pham mae plant a phobl ifanc yn mynd ar goll dro ar ôl tro i dderbyn dros hanner miliwn o bunnoedd o gyllid.
Gyda'r £543,202 a ddyfarnwyd iddynt gan y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru bydd asiantaethau amddiffyn plant Gwent yn sefydlu canolfan plant ar goll a fydd yn gweithio ar draws y sir.
Bydd y cynllun yn dod â gweithwyr o'r gwasanaethau cyhoeddus ynghyd i weithredu'n gynnar er mwyn cael gwybod pam fod pobl ifanc yn mynd ar goll.
Amcan y prosiect yw darparu ymateb aml-asiantaeth pan fydd plant yn rhedeg i ffwrdd er mwyn lleihau achosion a risg ac i wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc.
'Rôl hollbwysig'
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent a Chadeirydd Bwrdd y prosiect, Jeff Farrar: "Rwy'n gwbl argyhoeddedig bod dod ynghyd ar draws gwasanaethau cyhoeddus i dorri'r cylch ar gyfer plant ar goll yn wirioneddol flaengar.
"Bydd yn gosod y safon o ran sut rydym yn ymateb i bob person bregus.
"Mae llawer o waith caled wedi'i wneud i wireddu hyn a hoffwn ddiolch yn benodol i'r bobl ifanc sydd wedi profi'r trawma o fod ar goll a'n helpu ni i ddiwygio'r gwasanaeth."
Yn ôl Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Lywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant, mae gan wasanaethau cyhoeddus rôl hollbwysig wrth gefnogi'r bobl fwyaf anghenus cymdeithas.
"Trwy gydweithio mewn ffyrdd newydd bydd y prosiect hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lawer o bobl ifanc yng Ngwent a bydd hefyd yn enghraifft o arfer da ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012