Diweithdra'r ifanc: 'Rhaid cydweithio'
- Cyhoeddwyd
Rhaid i lywodraethau Prydain a Chymru gydweithio er mwyn mynd i'r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, David Jones.
Roedd yntau a'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn annerch uwch-gynhadledd yng Nghasnewydd.
Hon oedd yr uwch-gynhadledd gyntaf yn trafod swyddi yng Nghymru.
Dywedodd David Jones fod y digwyddiad yn un o bwys gan ei fod yn rhoi'r cyfle i fusnesau, sefydliadau a'r ddwy lywodraeth bwysleisio hyfforddiant a chefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc sy'n chwilio am waith.
"Mae'r ystod o gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw'n eang ac amrywiol iawn ...," meddai David Jones.
"Ond rhaid i'r ddwy lywodraeth yng Nghymru beidio â gweithio ar wahân.
"Mae gweithio gyda'i gilydd a chyda'r gymuned fusnes yn hanfodol os ydym am gyrraedd y nod."
Roedd y ddau, busnesau a sefydliadau fel Canolfan Byd Gwaith yn trafod, ymhlith materion eraill, sut i gynnig mwy o brofiad gwaith, swyddi preswyl a phrentisiaethau i bobl ifanc.
Mae tua 4,500 o bobl ifanc rhwng 18-24 oed yng Nghymru yn hawlio budd-dal chwilio am waith.
'Rhy uchel'
Bu gostyngiad yn y ffigwr yna ym mis Rhagfyr o'r 4,700 a gofnodwyd ym mis Medi'r llynedd, ond honnwyd bod y ffigwr bryd hynny yr uchaf ers 15 mlynedd.
Dywedodd David Jones fod y ffigwr yn dal yn rhy uchel a'i obaith y byddai digwyddiad ddydd Llun a drefnwyd gan lywodraeth y DU yn helpu delio gyda'r broblem.
Y nod oedd hybu cyfleoedd gwaith yn y sector busnesau bach a chanolig.
Dywedodd Martin Brown, cyfarwyddwr Canolfan Byd Gwaith yng Nghymru, mai y pryder mwyaf i bobl ifanc oedd y diffyg profiad gwaith ymarferol er mwyn plesio darpar gyflogwr.
Ychwanegodd fod eu Cytundeb Ieuenctid yn rhoi'r profiad a hyffordiant perthnasol i bobl ifanc.
"Ond hefyd rydym yn cynnig cymhelliad i gyflogwyr i roi swydd i bobl ifanc yng Nghymru," ychwanegodd.
'Anodd'
"Mae taliad o £2,275 ar gael iddyn nhw am bob person 18-24 oed sydd wedi bod yn ddiwaith am chwe mis neu fwy sy'n cael eu cyflogi ganddynt."
Pwysleisiodd Carwyn Jones nifer o fesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl ifanc diwaith mewn "cyfnod economaidd anodd".
"Rydym wedi sefydlu ein cynllun Twf Swyddi Cymru er mwyn cynorthwyo pobl ifanc wrth chwilio am waith," meddai'r Prif Weinidog.
"Hyd yma rydym wedi sicrhau 4,000 o gyfleoedd gwaith, ac mae'r swyddi a grewyd yn rhai newydd ac felly'n gymorth i fusnesau Cymru i dyfu.
"Mae'n ddyletswydd ar lywodraethau ar bob lefel i gymryd pob cam posib i ddatrys diweithdra ymysg yr ifanc."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2012