Aelodau yn cytuno i ddileu swydd Llywydd Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi derbyn newidiadau i'w cyfansoddiad mewn cynhadledd arbennig yn Aberystwyth gan gynnwys dileu swydd Llywydd y blaid.
Mewn cynhadledd arbennig yn Aberystwyth ddydd Sadwrn fe gafodd y newidiadau i strwythur y blaid eu disgrifio fel rhai "hanesyddol".
Cafodd y newidiadau eu derbyn wrth i'r blaid baratoi am yr etholiadau nesaf ac yn dod â phroses adolygu mewnol a ddechreuwyd wedi canlyniadau siomedig yn etholiadau diwetha'r Cynulliad i ben.
Mewn adroddiad mewnol y blaid, a gyhoeddwyd y llynedd, roedd nifer o argymhellion sy'n ffurfio sail y cyfansoddiad arfaethedig.
Yn ogystal â chael gwared ar swydd llywydd y blaid mae'n rhoi pleidlais gyfartal i aelodau.
Ar ôl colli ei statws fel yr wrthblaid swyddogol yn y cynulliad wedi'r etholiad yn 2011, dywedodd yr arweinydd ar y pryd, Ieuan Wyn Jones, yn ei ddatganiad ymddiswyddo fod "angen i ni nawr gymryd y cam nesaf fel plaid yn ein datblygiad drwy gynnal adolygiad trylwyr".
Etholaethau
Roedd yr adolygiad - 'Camu 'Mlaen' dan arweiniad ymgynghorydd economaidd y blaid, Dr Eurfyl ap Gwilym - yn cydnabod diffyg llwyddiant etholiadol y blaid.
Dyma dri o'r prif newidiadau a ddaw yn sgil y bleidlais ddydd Sadwrn:
Sefydlwyd Tîm yr Arweinydd i sicrhau arweinyddiaeth gliriach a mwy o atebolrwydd gan holl gynrychiolwyr y Blaid
Diddymwyd swydd y Llywydd ac y mae gan y blaid yn awr linellau cyfrifoldeb clir
Caiff y Gynhadledd ei hagor i bob aelod, a all ddod yno a phleidleisio - nid cynrychiolwyr yn unig, fel o'r blaen.
Roedd yr arweinydd Leanne Wood eisoes wedi dweud bod angen i'r blaid ennill mwy o'r seddi etholaethol sy'n cynrychioli dwy ran o dair o'r cynulliad.
Mae Ms Wood - AC rhanbarthol Canol De Cymru - hefyd wedi datgan ei bwriad i ymladd sedd etholaeth yn yr etholiad cynulliad nesaf yn 2016.
Am y tro cyntaf, bydd y cyfansoddiad yn cyflwyno system fyddai'n rhoi pŵer pleidleisio cyfartal i holl aelodau'r blaid.
Teimlad bod yna ddiffyg eglurder mewn strwythurau arweinyddiaeth y blaid sydd wrth wraidd y penderfyniad i ddileu swydd y llywydd.
Ers iddi gymryd yr awenau'r llynedd, mae Ms Wood wedi cyflwyno tîm arweinyddiaeth ar frig y blaid sy'n gyfrifol am oruchwylio tactegau gwleidyddol o ddydd i ddydd.
"Mae'r rhain yn newidiadau cyffrous fydd yn cryfhau'r modd yr ydym yn gweithio fel plaid," meddai Ms Wood wedi'r bleidlais.
'Adnewyddu'
"Ein nod yw dod yn blaid llywodraeth yn 2016, a bydd y newidiadau hyn yn help i ni gyrraedd y nod hwnnw.
"Bydd creu tîm yr arweinyddiaeth yn sicrhau mwy o atebolrwydd am y penderfyniadau yr ydym yn eu cymryd fel plaid gan ein haelodau etholedig ar bob lefel, a bydd yn golygu arweinyddiaeth gliriach.
"Bydd tîm yr arweinyddiaeth hefyd yn ymgorffori gwaith y llywydd.
"Mae'r penderfyniad i newid y swydd hon fu'n bodoli ers amser yn un hanesyddol, ac yn un sy'n arwydd o'n hymrwymiad i adnewyddu ac ail-edrych o'r newydd ar y modd yr ydym yn gweithio.
"Carwn ddiolch i Jill Evans am ei gwaith caled fel llywydd, ac edrych ymlaen at ei chyfraniad fel aelod o Dîm yr Arweinydd."
Dywedodd Cadeirydd y broses adnewyddu, y Dr Eurfyl ap Gwilym, bod y newidiadau a gytunwyd arnyn nhw yn hynod bwysig er mwyn cyrraedd y nod a osodwyd yn Camu 'Mlaen.
"Rwyf yn falch eu bod wedi derbyn cefnogaeth ein haelodau.
"Rydym yn benderfynol mai Plaid Cymru fydd cartref gwleidyddol naturiol pobl Cymru.
"Mae ein gwerthoedd yn cyd-fynd yn hollol â thueddiadau naturiol pobl Cymru, ond yn y gorffennol, nid ydym wedi llwyddo i fanteisio ar hynny.
"Yn ystod y broses adnewyddu, rydym yn newid y ffordd yr ydym yn gweithredu fel y gallwn gyflwyno'r canlyniadau a ddisgwyliwn gennym ein hunain, ac yr oedd y gynhadledd arbennig heddiw yn gam pwysig i gyrraedd y nod hwnnw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd23 Medi 2012
- Cyhoeddwyd14 Medi 2012
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2012