£244,000 i hybu ymchwil yng Nghaerdydd i ganser y prostad

  • Cyhoeddwyd
Dau gell canser y prostad yn y cam ola o rannuFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Prifysgol Caerdydd yn cael £244,000 i wneud ymchwil i ganser y prostad

Mae ymchwilwyr yng Nghaerdydd wedi derbyn hwb i'w hastudiaethau mewn cysylltiad â chanser y prostad.

Mae elusen Prostate Cancer UK wedi rhoi £244,000 i'r brifysgol i astudio'r ffordd orau o ragweld y risg y gallai dyn gael canser y prostad.

Dyma un o 17 grant gan yr elusen fel rhan o'u ton gyntaf o gyllid drwy strategaeth ymchwil newydd yr elusen.

Fel rhan o'r ymgyrch MANifesto, mae'r elusen wedi gado canfod atebion i rai o'r sialensiau pwysica' sy'n wynebu'r afiechyd.

Mae'r elusen yn darparu cyfanswm o £11 miliwn ar gyfer ymchwil eleni sy'n canolbwyntio ar ddeall y risg, gwella diagnosis yr afiechyd a gwella'r opsiynau o ran triniaeth i ddynion sy'n byw gyda'r afiechyd.

Yr Athro Alan Clarke fydd yn arwain y prosiect yn Ysgol Y Beiowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Arwyddion

"Bwriad ein prosiect ymchwil fydd i daclo un o'r prif faterion y canser sydd ddim wedi ei ddatblygu ers peth amser, y ffordd orau i ragweld y risg i ddynion ddatblygu'r afiechyd a pha mor ddrwg fydd y tiwmor.

"Fe fyddwn ni'n archwilio'r broses o ddatblygiad a thyfiant yn y tiwmor er mwyn gallu adnabod arwyddion posib.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i Prostate Cancer UK am y grant a fydd modd i ni ddatblygu llawer mwy a chynnig triniaethau i helpu dynion i ymladd yr afiechyd a chynnig gwir obaith i'r dyfodol."

Dywedodd Dr Iain Frame, Cyfarwyddwr Ymchwil Prostate Cancer UK, bod 'na ychydig o wybodaeth o hyd pam bod y canser yn lladd 10,000 o ddynion bob blwyddyn.

"Mae Prostate Cancer UK wedi addo cynyddu'r ymchwil a gwneud mwy i helpu dynion.

"Drwy ariannu gwaith ymchwil newydd o blith ymchwilwyr y DU ein gobaith yw canfod atebion sydd wir ei angen ar gyfer y dyfodol."

O ganlyniad i gefnogaeth Movember Foundation, mae Prostate Cancer UK wedi treblu'r swm a fydd yn cael ei wario ar ymchwil dros y tair blynedd nesaf i £25 miliwn.

Ond mae'r elusen yn pwysleisio bod arian yn dal yn bwysig er mwyn iddyn nhw wneud mwy o ymchwil i daclo a choncro'r afiechyd unwaith ac am byth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol