Yr Eidal 9-26 Cymru
- Cyhoeddwyd

Roedd cicio Leigh Halfpenny yn allweddol yn llwyddiant Cymru
Yr Eidal 9-26 Cymru
Roedd y fuddugoliaeth ym Mharis yn sicr wedi codi hyder y Cymry, ac fe fyddai buddugoliaeth swmpus wedi sicrhau bod Cymru yn y ras am y bencampwriaeth unwaith eto.
Dechrau nerfus gafwyd gan y ddau dîm, gyda'r glaw yn golygu sawl camgymeriad wrth drafod y bêl, ac er i Leigh Halfpenny roi Cymru ar y blaen gyda chic gosb wedi wyth munud, fe sicrhaodd Kris Burton bod y sgôr yn gyfartal 3-3 o fewn tri munud.
Yn absenoldeb y capten dylanwadol, Sergio Parise, roedd arwyddion bod sgrym Cymru yn cael goruchafiaeth dros eu gwrthwynebwyr, ac wedi chwarter awr arweiniodd hynny at gic gosb arall i Halfpenny cyn i drosedd arall yn y sgrym roi cyfle i gefnwr Cymru sgorio eto i'w gwneud hi'n 9-3.
Gair mawr yr hanner cyntaf oedd 'camgymeriadau', a hynny gan y ddwy ochr. Un arall gan Gymru yn arwain at gic gosb arall i Burton, ac yna Halfpenny'n methu cyfle cymharol hawdd at y pyst, a Chymru felly ar y blaen o 9-6 ar yr egwyl.
Ffodus
Ond os na ddaeth cais yn y cyfnod cyntaf, doedd dim rhaid aros yn hir am un wedi'r egwyl.
Roedd y cais yn un ffodus yn sicr, ond wrth i'r bêl adlamu i ddwylo Jonathan Davies, doedd neb mewn crys coch yn cwyno wrth iddo groesi i ychwanegu pum pwynt.
Llwyddodd Halfpenny gyda'r trosiad, ac roedd y bwlch yn 16-6.
Wedi i'r ddau giciwr gyfnewid ciciau roedd y fantais o 10 pwynt yn parhau, ond parhau hefyd roedd y camgymeriadau a doedd y canlyniad yn bell o fod yn sicr i Gymru.
Ond yna daeth hwb enfawr - trosedd arall yn y sgrym, a chan fod y dyfarnwr eisoes wedi rhybuddio'r ddau dîm am hynny, doedd dim dewis ond dangos y cerdyn melyn i gapten yr Azzurri, Martin Castrogiovanni - deng munud yn y cell cosb iddo yntau.
Roedd angen manteisio ar hynny, ac fe wnaeth Cymru o fewn munud - symudiad hyfryd y tro hwn, ac Alex Cuthbert yn derbyn y bêl yn llydan cyn croesi yn y gornel.
Gyda throsiad gwych Halfpenny roedd y sgôr bellach yn 26-9, a'r fuddugoliaeth yn ymddangos yn ddiogel.
Fe fyddai cais arall wedi bod yn gymorth i wella gwahaniaeth pwyntiau tîm Rob Howley, ond fe fydd yr hyfforddwr dros dro yn falch fod ei dîm wedi llwyddo i ennill mewn amodau anodd yn Rhufain.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2013