Cymeradwyo newidiadau dros dro i gylldieb Cyngor Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Ynys Echni
Disgrifiad o’r llun,

Fydd Ynys Echni ddim yn cael ei gwerthu am y tro

Mae rhai gwasanaethau oedd dan fygythiad wrth i Gyngor Caerdydd gyflwyno toriadau wedi cael achubiaeth dros dro.

Wrth gymeradwyo'r Gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesa', pleidleisiodd cynghorwyr o blaid cadw rhai gwasanaethau am ychydig fisoedd, wrth i ffyrdd newydd o'u hariannu gael eu hystyried.

Roedd dros 100 o bobl wedi ymgasglu y tu allan i'r cyfarfod yn Neuadd y Ddinas brynhawn Iau i ddangos eu gwrthwynebiad i doriadau gwerth dros £22 miliwn.

Y weinyddiaeth Llafur sy'n rhedeg y cyngor oedd wedi argymell y toriadau.

Yn ystod y cyfarfod, cyflwynodd y weinyddiaeth Lafur newidiadau i'w cynlluniau gwreiddiol.

Fydd rhai gwasanaethau, gan gynnwys pwll nofio Sblot, Canolfan Gymunedol Plasnewydd a nifer o glybiau bowls, ddim yn cau am ychydig fisoedd.

Cyhoeddwyd hefyd na fydd Ynys Echni ym Môr Hafren yn cael ei gwerthu am y tro gydag ymwelwyr yn cael mynd yno am un haf arall.

Ymhlith y rhai oedd yn protestio yr oedd cynrychiolwyr undebau llafur, cefnogwyr yr ysgol farchogaeth ym Mhontcanna, defnyddwyr a staff Canolfan y Bannau yn Storey Arms a rhieni a phlant sy'n defnyddio gwasanaeth cerdd y cyngor.

Newidiadau

"Mae'n hollol annerbyniol eu bod yn beio pobl sydd ddim yn gyfrifol am yr argyfwng ariannol," meddai un o'r protestwyr, Paddy Phillips.

"Mae'n mynd i gael effaith ar bobl anabl pobl sydd eisiau gwasanaethau.

"Y banciau a phobl gyfoethog sydd ar fai, dim y bobl tlawd.

"Mae lot o bobl yn diodde' oherwydd y toriadau a dim bai arnyn nhw."

Mae'r Cynghorydd Huw Thomas, sy'n aelod o gabinet Cyngor Caerdydd, yn dweud bod 'na sawl rheswm dros gyflwyno newidiadau.

"Yn rhannol oherwydd bod sefyllfa ariannol y cyngor wedi newid yn ystod y ddau fis diwethaf.

"Mae'n caniatáu i ni allu gwario mwy y flwyddyn nesa', sydd lawr i waith caled y cabinet a swyddogion.

"Hefyd rydan ni wedi bod yn gwrando ar bobl Caerdydd ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu.

"Mae angen edrych ar ffyrdd amgen i warchod gwasanaethu yn enwedig y rhai na all y cyngor eu fforddio oherwydd y sefyllfa ariannol.

"Mae'r gyllideb ddiweddara' yn caniatau yr amser ychwanegol er mwyn cael cyfle i gyflwyno ffyrdd amgen."

Penderfyniadau anochel

Yn hwyr nos Iau cafodd y Gyllideb ddiwygiedig ei chymeradwyo, sy'n golygu cyflwyno toriadau gwerth dros £20 miliwn.

Ond mae arweinwyr y cyngor yn dadlau bod y penderfyniad yn anochel o ystyried y sefyllfa economaidd sydd ohoni.

Maen nhw'n pwysleisio bod gwasanaethau rheng flaen yn cael eu hachub ac maen nhw'n mynnu eu bod yn cadw at eu haddewid cyn yr etholiad llynedd i beidio â chodi treth cyngor am y flwyddyn nesa'.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol