Gwaith celf Cymru'n cael ei arddangos yn China
- Cyhoeddwyd
Mae arddangosfa sydd yn olrhain hanes Cymru trwy ddetholiad o'i thrysorau a gwaith celf wedi agor yn Chongqing yn China.
Mae'r Weinidog Treftadaeth, Huw Lewis, yn lansio'r arddangosfa yn ystod wythnos o ddigwyddiadau i gryfhau cysylltiadau rhwng y ddwy wlad.
"Rydym yn ceisio'n galed iawn i godi proffil Cymru ymhlith ein partneriaid economaidd allweddol i gyd-daro â Dydd Gŵyl Dewi", dywedodd Mr Lewis i BBC Cymru cyn gadael am China ar daith fasnach Wythnos Cymru.
Dywedodd mai yn ogystal ag agwedd diwylliannol ei daith byddai hefyd "agwedd addysgol" i'w ymweliad.
Colegau
"Mae gan nifer o golegau addysg bellach Cymru berthynas dda iawn gyda cholegau yn China felly byddaf yn edrych ar hynny hefyd," meddai.
"Ond, wrth gwrs, mae yna agwedd masnachol ac economaidd i hyn, ac mae proffil Cymru ar draws y byd yn ganolog i hynny."
Dechreuodd cysylltiadau Cymru â thalaith ddeheuol China yn 2006 pan arwyddodd y ddwy lywodraeth memorandwm o ddealltwriaeth.
Mae'r cytundeb, a lofnodwyd o'r newydd yn 2011, yn ymrwymo'r ddwy lywodraeth i barhau i weithio gyda'i gilydd mewn meysydd megis diwylliant a thwristiaeth.
Mae prif swyddfa'r llywodraeth Cymraeg yn Chongqing, yn helpu busnesau a sefydliadau i ddatblygu cysylltiadau yno.
Arddangosfa
Yn 2008 cytunodd Amgueddfa Cymru ac amgueddfa China Three Gorges yn Chongqing i weithio gyda'i gilydd ar brosiectau.
Yn 2011 anfonodd yr amgueddfa yn China arddangosfa lwyddiannus iawn o gerfiadau cerrig hynafol o Dazu i Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd.
Denodd yr arddangosfa mwy na 38,000 o ymwelwyr mewn dau fis.
Yn awr mae Amgueddfa Cymru wedi anfon gwrthrychau y mae'n dweud bydd yn rhoi blas ar gymeriad unigryw Cymru, drwy ei diwylliant ac iaith, hanes a thirwedd, i ymwelwyr yn China.
Mae disgwyl i tua 260,000 o bobl ymweld â'r arddangosfa.
Ymhlith y trysorau fydd ar gael iddynt weld bydd Brigwrn Capel Garmon a fyddai wedi sefyll ger yr aelwyd mewn tŷ crwn hynafol, bocs snisin aur a roddwyd i HM Stanley gan y Frenhines Victoria a hyd yn oed ddysgl gawl porslen a wnaed yn China tua 1760, yn rhan o wasanaeth cinio ar gyfer teulu cyfoethog Ewropeaidd.
'Adrodd stori Cymru'
Meddai Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson:
"Mae'n bleser gennym gael cyflwyno'r arddangosfa bwysig hon am Gymru i Amgueddfa Three Gorges wedi llwyddiant hynod yr arddangosfa ar Dazu yma yng Nghaerdydd.
"Mae gweithio'n rhyngwladol yn un o'n blaenoriaethau pennaf ac mae'r bartneriaeth hon yn ffordd wych o hyrwyddo casgliadau Amgueddfa Cymru yn China.
"Bydd yn gyfle i ni adrodd stori Cymru i gynulleidfa newydd ac i ymwelwyr ddysgu mwy am ddiwylliant, hanes ac amgylchfyd cyfoethog ein cenedl."
Bydd yr arddangosfa, Wales, Land of the Red Dragon, yn Chongqing tan ddiwedd mis Mehefin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd15 Mai 2012
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2011