Biliau'n codi 2.9% ar gyfartaledd
- Cyhoeddwyd
Ar gyfartaledd bydd biliau treth y cyngor yng Nghymru'n codi 2.9% yn Ebrill, yn ôl arolwg.
Ond mae penaethiaid llywodraeth leol wedi dweud y bydd trethdalwyr y wlad hon yn talu tua £200 yn llai na'r rhai yn Lloegr yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Dywedodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol yng Nghymru, gynhaliodd yr arolwg, fod stad yr economi a thorri gwariant cyhoeddus yn arwain at filiau uwch.
Bydd dau gyngor, Caerdydd a Sir Fynwy, yn rhewi treth y cyngor yn 2013-14.
Y codiad uchaf yn y biliau fydd 5% ar Ynys Môn.
Dywedodd llefarydd cyllid y mudiad Aaron Shotton: "Er bod cynghorau'n ceisio sicrhau bod eu cyfraddau mor isel â phosib', mae'n anochel y bydd biliau'n codi yn wyneb y sefyllfa economaidd.
"Dyw'r pwysau ariannol ddim wedi bod mor drwm ar gynghorau oherwydd yr hinsawdd economaidd, toriadau mewn termau real i ariannu, a diwygio'r Wladwriaeth Les.
"Ein nod ni yw sicrhau bod y cydbwysedd yn iawn ar gyfer ein dinasyddion."
Bydd dadansoddiad trylwyr o wario cyhoeddus cynghorau yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2013