Warburton yn ôl ond Jones yn gapten

  • Cyhoeddwyd
Sam WarburtonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Er bod Sam Warburton yn dychwelyd i'r tîm, bydd Ryan Jones yn parhau fel capten

Mae Sam Warburton yn un o dri newid i dîm Cymru fydd yn wynebu'r Alban ym Murrayfield ddydd Sadwrn, ond bydd Ryan Jones yn aros yn gapten.

Bydd Paul James yn dechrau fel prop oherwydd yr anaf a gafodd Gethin Jenkins yn yr Eidal bythefnos yn ôl, a bydd Alun Wyn Jones yn dychwelyd i'r ail reng ôl yn lle Andrew Coombs.

Daeth Alun Wyn Jones a Warburton i'r maes fel eilyddion yn Rhufain yn dilyn cyfnod allan o'r tîm gydag anafiadau.

Bydd Ryan Jones yn parhau yn gapten er bod Warburton yn ôl, gan i Jones arwain y tîm yn y ddwy fuddugoliaeth oddi cartref ym Mharis a Rhufain.

'Momentwm'

Dywedodd hyfforddwr dros dro Cymru, Rob Howley:

"Rydym wedi cael dwy fuddugoliaeth galed oddi cartref, ond rydym yn gwybod y bydd rhaid i ni fod ar ein gorau i adael Murrayfield gyda'r pwyntiau.

"Mae'n siomedig i Gethin golli'r gêm, ond mae Paul wedi creu argraff ymhob gêm y mae wedi chwarae i ni.

"Mae gennym wledd o brofiad yn dychwelyd gydag Alun Wyn a Sam, ac fe wnaeth y ddau yn dda oddi ar y fainc yn Rhufain.

"Mae Ryan wedi arwain y tîm i ddwy fuddugoliaeth, ac mae'n haeddu bod yn gapten yn erbyn Yr Alban.

"Rydym wedi sôn am fomentwm yn aml yn y bencampwriaeth yma, ac mae'n braf cael mynd i'r gêm gyda dwy fuddugoliaeth y tu cefn i ni, ond mae'r Alban yn yr un sefyllfa ac mae'n mynd i fod yn her."

Albanwyr

Mae'r Alban wedi gwneud dau newid i'r tîm a gurodd Iwerddon bythefnos yn ôl.

Bydd Duncan Weir o Glasgow yn dechrau fel maswr am y tro cyntaf - mae'r chwaraewr 21 oed wedi ennill ei dri chap blaenorol o'r fainc fel eilydd - a bydd yn cymryd lle Ruaridh Jackson yn y safle allweddol.

Mae'r newid arall yn gweld y prop Euan Murray yn dychwelyd yn lle Geoff Cross. Gwrthododd Murray chwarae ar y dydd Sul yn erbyn Iwerddon oherwydd ei ddaliadau crefyddol.

YR ALBAN v.CYMRU: Dydd Sadwrn, Mawrth 9: Murrayfield :-

CYMRU :

15-Leigh Halfpenny (Gleision);

14-Alex Cuthbert (Gleision), 13-Jonathan Davies (Scarlets), 12-Jamie Roberts (Gleision), 11-George North (Scarlets);

10-Dan Biggar (Gweilch), 9-Mike Phillips (Bayonne);

1-Paul James (Caerfaddon), 2-Richard Hibbard (Gweilch), 3-Adam Jones (Gweilch);

4-Alun Wyn Jones (Gweilch), 5-Ian Evans (Gweilch);

6-Ryan Jones (Gweilch, capten), 8-Toby Faletau (Dreigiau), 7-Sam Warburton (Gleision).

Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Scott Andrews (Gleision), Ryan Bevington (Gweilch), Andrew Coombs (Dreigiau), Justin Tipuric (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), Scott Williams (Scarlets).

YR ALBAN :

15-Stuart Hogg;

14-Sean Maitland, 13-Sean Lamont, 12-Matt Scott, 11-Tim Visser;

10-Duncan Weir, 9-Greig Laidlaw;

1-Ryan Grant, 2-Ross Ford, 3-Euan Murray;

4-Richie Gray, 5-Jim Hamilton;

6-Robert Harley, 7-Kelly Brown, 8-Johnnie Beattie

Eilyddion: 16-Dougie Hall, 17-Moray Low, 18-Geoff Cross, 19-Alastair Kellock, 20-Ryan Wilson, 21-Henry Pyrgos, 22-Ruaridh Jackson, 23-Max Evans.