Ffafrio cynnig Viridor ar gyfer contract 25 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae pum awdurdod lleol wedi cytuno mai cwmni Viridor ddylai gael ei ffafrio ar gyfer contract 25 mlynedd i weithredu safle llosgi gwastraff.
Mae Viridor wrthi'n adeiladu'r llosgydd ym Mae Caerdydd ar hyn o bryd.
Mae'r pum awdurdod lleol - sef Bro Morgannwg, Caerffili, Caerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy - wedi ffurfio'r Prosiect Gwyrdd er mwyn delio â gwastraff sy'n anodd ei ailgylchu.
Mae disgwyl penderfyniad terfynol ar y cynigydd a ffefrir o fewn wythnosau ac fe allai'r cytundeb gael ei arwyddo cyn diwedd mis Mehefin.
'Hir a chymhleth'
Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway ar ran Prosiect Gwyrdd: "Bydd y bartneriaeth hon yn un o'r rhai mwyaf arwyddocaol rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn hanes Cymru.
"Mae wedi bod yn broses hir, ond yn gymhleth iawn, ond fe fydd yn golygu y bydd gan y pum cyngor ffordd ddibynadwy, gynaliadwy a gwerth am arian i drin gwastraff nad oes modd ei ailgylchu am y 25 mlynedd nesaf."
Mae Bwrdd y Prosiect Gwyrdd yn amcangyfrif y bydd y pum cyngor yn sicrhau arbedion o fwy na £11 miliwn yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu o gymharu â'r trefniadau tirlenwi presennol, ac ar gyfartaledd, mae hynny'n arbediad o 50% o gymharu â'i gost amcangyfrifedig o barhau i ddefnyddio safleoedd tirlenwi.
Tair blynedd
Dywedodd Howard Ellard, cyfarwyddwr datblygu busnes Viridor: "Ar ôl proses dendro sydd wedi cymryd tair blynedd, rydym yn edrych 'mlaen at weithio gyda'r Prosiect Gwyrdd i gwblhau unrhyw fanylion er mwyn dechrau ar y gwasanaeth hanfodol yma i'r partneriaid prosiect a'u trigolion."
Mae ymgyrchwyr yn y ddinas yn gwrthwynebu'r datblygiad.
Mae grŵp Caerdydd yn Erbyn y Llosgydd yn cwrdd bob wythnos, ac yn ystyried rhoi cais am orchymyn yn yr Uchel Lys i atal gwaith adeiladu Viridor, gan geisio perswadio'r cyngor bod Viridor yn torri rhai amodau'u caniatâd cynllunio ers mis Mawrth y llynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2011