Troi eglwysi gwag yn gartrefi fforddiadwy?

  • Cyhoeddwyd
Eglwys Sant Ioan, Hafod, AbertaweFfynhonnell y llun, Church in Wales
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eglwys Sant Ioan yn Hafod, Abertawe, wedi cael ei drosi'n rhannol

Mae eglwysi yng Nghymru yn cael eu hannog i'r adeiladau a'r tir gael ei droi'n adeiladau ar gyfer tai fforddiadwy.

Mae'r elusen Cyfiawnder Tai wedi penodi eu swyddog cyntaf i gyd-lynu â phob eglwys yng Nghymru.

Mae'r elusen yn gobeithio y bydd eglwysi, neuaddau eglwysi a ficerdai segur yn cael eu trawsnewid i fod yn gartrefi.

Mae'r Eglwys yng Nghymru a Shelter Cymru wedi dweud y byddai'r fenter yn helpu taclo argyfwng tai Cymru.

Rhestrau aros

Dywed Yr Eglwys yng Nghymru fod un eglwys y mis yn cael ei gau yng Nghymru, yn bennaf oherwydd gostyngiad mewn addolwyr.

Yn ôl Shelter Cymru mae oddeutu 90,000 cartref ar restrau aros ar gyfer tai cyngor neu dai cymdeithasol ar hyn o bryd.

Disgrifiad,

Adroddiad Luned Gwyn

Mae cynllun Ffydd mewn Tai Fforddiadwy sy'n cael ei redeg gan Gyfiawnder Tai yn ceisio gwneud "gwahaniaeth mawr i fywydau pobl".

"Mae nifer yr addolwyr yn gostwng a dydyn ni ddim yn hapus am hyn," dywedodd cyfarwyddwr y prosiect, Alastair Murray.

"Ond rydym yn ystyried y sefyllfa o ran sut all yr eglwys ymateb i ofynion dynol ac ysbrydol yn ogystal â gwneud defnydd o'i adnoddau nad yw'n cael ei ddefnyddio'n ddigonol."

Dywedodd Mr Murray y byddai'n trafod y syniad ag eglwysi o bob enwad.

Gwnaeth adroddiad ynghylch dyfodol Yr Eglwys yng Nghymru ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf y llynedd.

Dymchwel

Roedd yr adroddiad hwnnw'n ystyried sut y byddai'r eglwys yn ymdopi â gostyngiad yn nifer y clerigwyr, gostyngiad yn nifer yr addolwyr a'r bil cynyddol i adfer adeiladau.

Dywedodd Alex Glanville, pennaeth gwasanaethau eiddo Yr Eglwys yng Nghymru, ac aelod o grŵp llywio'r prosiect, y byddai tro eglwysi yn dal yn ddefnydd da o adnoddau.

Ychwanegodd y gallai nifer o eglwysi gafodd eu hadeiladu yn y 19eg Ganrif cael eu gwerthu neu eu gosod ar brydles i gymdeithasau tai pe na bydden nhw'n cael eu defnyddio.

"Byddai'r holl arian fydd yn cael ei godi yn cael ei drosglwyddo i'r eglwysi," meddai.

Ychwanegodd fod tua dau rhan o dri o eglwysi Yr Eglwys yng Nghymru yn adeiladau rhestredig felly y bydden rhaid iddynt gael eu trosi yn hytrach na chael eu dymchwel.

Mae Eglwys Sant Ioan yn Hafod, Abertawe, wedi cael ei drosi'n rhannol ac ehangu gan Gymdeithas Tai Gwalia gan greu 10 fflat fforddiadwy i bobl hŷn.

Bydd y cynllun yn cael ei amlygu mewn cynhadledd yng Nghaerdydd ym mis Ebrill sydd wedi ei threfnu gan Yr Eglwys yng Nghymru a Llenyddiaeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Shelter Cymru fod angen 4,000 o dai fforddiadwy newydd y flwyddyn ar Gymru i ateb y galw ar hyn o bryd.

"Does dim dwywaith fod angen mwy o dai fforddiadwy ond mae'r hinsawdd economaidd anodd yn golygu bod yn rhaid inni fod yn fwy creadigol ac arloesol i sicrhau llwyddiant y cynllun," meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol