Band eang: £90 miliwn i rannau o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cadarnhau eu bod yn buddsoddi £90 miliwn i ddod â band eang cyflym i Orllewin Cymru a Chymoedd y De.
Rhan yw'r buddsoddiad o gynllun £425 miliwn i sicrhau bod 96% o gartrefi a busnesau'r wlad yn gallu elwa ar y rhwydwaith erbyn 2015.
Dywedodd y comisiwn y byddai rhwydwaith mwy cyflym yn "hwb economaidd" i ardaloedd oedd ei hangen.
Tra bod Llywodraeth Cymru'n gwario £58 miliwn ar gynllun Cyflymder Cymru mae'r un swm yn dod o Llywodraeth y DU.
'Yr economi ddigidol'
Bydd tua hanner y cynllun yn cael ei dalu gan y sector cyhoeddus a bydd peirianwyr yn gosod miloedd o gilomedrau o geblau ffibr optig,
Daw'r buddsoddiad Ewropeaidd oherwydd rhaglen rhwng Sir Ddinbych ac Ynys Môn yn y gogledd a Sir Benfro a Chaerffili yn y de.
Dywedodd Johannes Hahn, Comisiynydd Ewrop ar gyfer polisi rhanbarthol: "Bydd busnesau a dinasyddion yn elwa'n fawr ar gynlluniau fel hyn.
"Bydd y fenter yn golygu bod Cymru ar ei hennill yn sgil cyfleoedd yr economi ddigidol.
"Bydd y ffaith fod pobl yn gallu cael at y we yn gyflym yn chwarae rhan allweddol i helpu rhanbarthau o ran eu datblygiad economaidd."
Mae disgwyl i gwsmeriaid gael cyflymder o hyd at 80 megabeit yr eiliad a bydd rhai ardaloedd yn gallu cael cysylltiad uwch gyflym o 330 megabeit yr eiliad.
Bydd busnesau'n gallu uwchraddio i gyflymder uwch.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd17 Medi 2012
- Cyhoeddwyd11 Medi 2012
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2012