Gwefan iechyd meddwl i bobl ifanc

  • Cyhoeddwyd
Meddwl am Iechyd MeddwlFfynhonnell y llun, BCUHB
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y bwrdd iechyd y bydd y wefan yn cynnig gwybodaeth ar ystod eang o broblemau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc

Fe fydd bwrdd iechyd yn lansio gwefan newydd ddydd Llun i hybu iechyd meddwl ymysg plant a phobl ifanc fel rhan o raglen Meddwl am Iechyd Meddwl.

Prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Mary Burrows, fydd yn lansio'r wefan yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.

Bwriad y bwrdd wedyn yw ymestyn y cynllun i bob ysgol uwchradd yng ngogledd Cymru.

Mae'r rhaglen wedi ei hanelu at ddisgyblion blwyddyn 8 i godi ymwybyddiaeth am ystod eang o bynciau iechyd meddwl, gyda'r nod o leihau stigma sy'n gysylltiedig â'r pwnc.

Grymuso

Ymhlith eraill, bydd y wefan yn ymdrin â phynciau :-

  • Anhwylderau bwyta;

  • Anhwylderau deubegwn;

  • Anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD);

  • Cyffuriau ac alcohol;

  • Hunan-niweidio ac iselder;

  • Straen arholiadau neu straen wedi trawma;

  • Ymdopi â bwlio.

Mae'r rhaglen yn pwysleisio'r angen am strategaeth ataliol ac ymyriad cynnar, ac yn ceisio grymuso pobl ifanc i gymryd cyfrifoldeb dros eu hanghenion iechyd meddwl eu hunain.

Dywedodd Irfon Williams, Rheolwr Gwasanaethau Plant ar gyfer y Bwrdd Iechyd:

"O edrych ar ymateb myfyrwyr ac athrawon rydym wedi gweld bod angen gwybodaeth ynglŷn â materion iechyd meddwl sy'n berthnasol ac ar gael yn rhwydd.

"Yr ymateb yma sydd wedi arwain at ddatblygu gwefan Meddwl am Iechyd Meddwl a deunyddiau cysylltiedig."

Bob ysgol

Ychwanegodd Mary Burrows: "Rydw i'n falch iawn o gael lansio'r wefan a'r wal yma yn Amlwch. Yn ffodus iawn cawsom grant gan Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Ynys Môn i ddatblygu'r wefan a'r wal.

"Rydym yn bwriadu lledaenu'r rhaglen Meddwl am Iechyd Meddwl i holl ysgolion uwchradd Gogledd Cymru a bydd gan bob ysgol ei wal meddwl am iechyd meddwl ei hun a deunyddiau cysylltiedig."

Dywed y bwrdd y bydd y wefan yn rhoi cyngor i blant a phobl ifanc sy'n cael problemau iechyd meddwl a gwybodaeth i'w ffrindiau a'u teuluoedd.

Rhannwyd y wefan yn adrannau ar gyfer 'Plant a Phobl Ifanc', 'Rhieni a Gofalwyr' a 'Gweithwyr Proffesiynol' ac mae'n casglu gwybodaeth ac adnoddau am symptomau, diagnosis a dulliau o drin problemau iechyd meddwl.

Bydd y wefan a'r wal yn cael eu lansio am 11:30am fore Llun, Mawrth 11.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol