Pedwar AC yn sôn am broblemau iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar Aelod Cynulliad wedi sôn am eu profiadau o ddioddef problemau iechyd meddwl mewn cyfres o flogiau cyn dadl yn y Cynulliad ddydd Mercher.
Mae Eluned Parrott, Ken Skates, David Melding a Llŷr Huws Gruffydd wedi ysgrifennu blogiau am eu salwch meddwl ar wefan y mudiad iechyd meddwl Amser i Newid Cymru.
Bydd y ddadl yn galw ar Lywodraeth Cymru gydnabod y gwahaniaethau a'r stigma y mae pobl â salwch meddwl yn eu hwynebu.
Daw'r blogiau gan y gwleidyddion yn dilyn arolwg barn gan Amser i Newid Cymru lle dywedodd chwarter yr atebwyr na ddylai pobl â phroblemau iechyd meddwl ddal swyddi cyhoeddus.
Genedigaeth
Roedd 10% o atebwyr hefyd yn dweud na ddylai pobl sydd yn dioddef o salwch meddwl gael plant.
Dywedodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Eluned Parrott ei bod wedi dioddef o iselder ysbryd wedi genedigaeth ei dau blentyn.
"Roeddwn yn dioddef o iselder ar ôl y geni a wnes i ddim gofyn am gymorth y tro cyntaf iddo ddigwydd am fy mod i'n ofni cael fy labelu," meddai.
"Mae'n anodd iawn i siarad am eich problemau iechyd eich hun ond rwy'n gobeithio y bydd yn haws i bobl drafod y mater yn y dyfodol am fy mod i'n sôn am salwch meddwl yn awr."
Dywedodd AC y Ceidwadwyr, David Melding, sy'n Ddirprwy Llwydd y Cynulliad, yn ei flog fod cymysgu â phobl yn ei swydd fel gwleidydd wedi ei helpu pan oedd yn dioddef salwch meddwl.
"Ond nid oedd y straen na'r blinder byth yn fy ngadael.
"Un canlyniad positif o'm mhrofiad o salwch meddwl yw fy mod am genhadu ar ran y materion hyn yn y Cynulliad."
'Cefnogi'r neges'
Dywedodd AC y Blaid Lafur, Ken Skates: "Doedd ysgrifennu am Anhwylder Gorbryder Cyffredinol (GAD), iselder a'm gwellhad ddim yn hawdd ond roeddwn yn teimlo bod yn rhaid imi siarad am fy mhrofiadau i gefnogi'r neges o 'peidiwch ag ofni siarad am iechyd meddwl'".
Dywedodd blog Llŷr Huws Gruffydd: "Hyd yn oed heddiw nid oes gan y rhan fwyaf o'm ffrindiau a'm teulu syniad fy mod wedi bod yn sâl. Yn bennaf oll nid oedd fy rhieni yn gwybod ychwaith.
"Yr erthygl hon sydd o'r diwedd wedi rhoi'r hyder i mi ddweud wrthynt am fy salwch.
"Nid wyf am iddynt gael eu synnu, nid wyf am iddynt fod yn drist, ac yn bendant nid wyf am iddynt deimlo'n euog. Roeddwn yn sâl ond yn awr rwy'n well."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2012