Gohirio achos Ian Watkins o'r Lostprophets
- Cyhoeddwyd
Mae gwrandawiad yn achos prif leisydd y band roc Lostprophets, sy'n ymwneud â chyhuddiadau o droseddau rhywiol gyda phlentyn, wedi ei ohirio am ddau fis.
Fe fydd Ian Watkins, 35, o Bontypridd, yn ymddangos mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Mai.
Mae Mr Watkins wedi ei gyhuddo o gynllwynio i wneud gweithred rywiol gyda phlentyn dan 13 oed a phedwar cyhuddiad o fod â lluniau anweddus o blant yn ei feddiant ac o'u dosbarthu.
Mae'r troseddau'n ymwneud â chyfnod rhwng Mai 2012 a Rhagfyr 2012.
Cafodd dynes 24 oed ei chyhuddo o'r un cyhuddiadau â Mr Watkins, ac mae dynes 20 oed wedi cael ei chyhuddo o'r pum cyhuddiad ond nid o gynllwynio i dreisio.
"Mae Mr Watkins yn gwadu'n llwyr y cyhuddiadau a'r honiadau a wnaed," meddai datganiad gan ei gyfreithiwr, Sarah Williams-Martin.
"Mae'n bwriadu ymladd hyd yr eithaf ac mae'n ddiolchgar i'w gefnogwyr, teulu a ffrindiau am y gefnogaeth a dderbyniodd ac y mae'n dal i'w dderbyn yn ystod y cyfnod anodd yma."
Cyhoeddwyd ddydd Llun y bydd yr achos yn dechrau ar Orffennaf 15 ac mae disgwyl iddo bara tair wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2012