'Angen bod yn fwy gonest am rôl alcohol yn ein cymdeithas'

  • Cyhoeddwyd
Diodydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae adroddiad newydd gan Alcohol Concern yn edrych ar ein hagweddau at broblemau yfed

Mae angen dileu'r stigma ynghylch cyfaddef problem alcohol a cheisio triniaeth amdani, yn ôl adroddiad newydd gan Alcohol Concern.

Mae'r adroddiad, Problem pawb, gan yr elusen genedlaethol ar gamddefnyddio alcohol, yn awgrymu bod angen bod yn fwy gonest am rôl alcohol yn ein cymdeithas.

Mae hefyd yn herio'r syniad y gellir priodoli problemau alcohol i garfan fach o 'yfwyr problemus'.

Dywedodd Andrew Misell, Rheolwr Alcohol Concern Cymru: "Mae hawdd iawn i ni weld problemau alcohol yn broblem rhywun arall.

"Pan ofynnon ni i bobl beth welen nhw'n broblem yfed, roedd bron hanner yn credu ei bod yn golygu yfed bob dydd, tra roedd nifer yn sôn am ymddygiad eithafol fel bod yn rhy feddw i gerdded, neu fynd i gwffias.

"Mae'r atebion hyn yn dangos mor awyddus yw llawer ohonon ni i bwysleisio'r bwlch rhwng ein harferion yfed ni a'r rhai sydd â phroblem yfed yn eu tyb ni.

"Mewn gwirionedd, dyw'r ffin rhwng yfed yn ddoeth a chamddefnyddio alcohol ddim bob amser yn glir, ac mae llawer ohonon ni'n ei chroesi o dro i dro."

'Cost-effeithiol'

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o astudiaethau sy'n dangos bod gwasanaethau alcohol yn gallu bod yn dra effeithiol o ran gwella bywydau unigolion a'u teuluoedd, a chost-effeithiol iawn.

Mae hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn nyfodol gwasanaethau alcohol lleol Cymru.

Ymhlith argymhellion yr adroddiad i sicrhau dyfodol gwasanaethau alcohol Cymru dywedir y dylai gwariant ar wasanaethau alcohol barhau'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Dywedir hefyd y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau y cofnodir yn gywir faint o bobol yng Nghymru sy'n ddibynnol ar alcohol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi clustnodi £40m i fynd i'r afael â chamddefnydd sylweddau.

Ychwanegodd bod angen i Lywodraeth y DU gymryd camau i daclo materion megis prisiau alcohol a thrwyddedu, neu ddatganoli grymoedd i Gymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol