Joe Allen allan o garfan bêl-droed Cymru

  • Cyhoeddwyd
Joe Allen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joe Allen wedi chwarae 13 tro dros Gymru er 2009

Ni fydd chwaraewr canol cae Lerpwl Joe Allen yn chwarae i Gymru yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Yr Alban a Croatia oherwydd anaf.

Mae'r chwaraewr 23 oed wedi bod yn diodde' gydag anaf i'w ysgwydd ac mae rheolwr ei glwb, Brendan Rodgers, wedi cadarnhau fod Allen angen llawdriniaeth.

Mae ymosodwr Leeds United Steve Morrison hefyd wedi tynnu nôl o'r garfan ar gyfer y ddwy gêm oherwydd anaf i'w goes.

Bydd ymosodwr Crystal Palace sydd ar fenthyg gyda Millwall, Jermaine Easter, yn ymuno â'r garfan yn lle Morrison.

Mae'n debygol y bydd Allen yn methu â chwarae am dri mis ar ôl iddo dderbyn llawdriniaeth am yr anaf i'w ysgwydd.

Ond nid oes dyddiad ar gyfer y llawdriniaeth wedi ei bennu hyd yn hyn.

Dywedodd y cyn-chwaraewr rhyngwladol, Iwan Roberts, bod colli Allen "yn ergyd" i Gymru.

"Fe fydd ei golli yn cael cryn effaith ar y garfan.

"Yn sicr fe fyddai Allen wedi cychwyn yn erbyn Yr Alban.

"Yr hyn sy'n siomedig i mi yw y gallai Lerpwl fod wedi gohirio'r driniaeth am 10 niwrnod.

"Gallai Rodgers a Lerpwl wedi gohirio er mwyn i Allen chwarae yn y ddwy gêm."

Ychwanegodd nad oedd yn credu y byddai Morrison wedi cychwyn.

Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm Hampden yn Glasgow ar Fawrth 22 ac fe fyddan nhw'n herio Croatia yn Stadiwm Liberty Abertawe ar Fawrth 26.

Bydd Cymru'n gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Awstria fis diwetha'.

Fe fydd tîm dan 21 Cymru yn wynebu Moldova nos Wener am 6pm ym Mharc y Scarlets, Llanelli.

Carfan Cymru:

Boaz Myhill (West Bromwich Albion), Lewis Price (Crystal Palace), Owain Fôn Williams (Tranmere Rovers), Ben Davies (Abertawe), James Collins (West Ham United), Chris Gunter (Reading), Joel Lynch (Huddersfield Town), Ashley Richards (Abertawe) - ar fenthyg gyda Crystal Palace), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Ashley Williams (Abertawe), Jack Collison (West Ham United), Andy King (Leicester City), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Sunderland), Jonathan Williams (Crystal Palace), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Craig Bellamy (Caerdydd), Jermaine Easter (Crystal Palace - ar fenthyg gyda Millwall), Simon Church (Reading), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley).

Carfan Cymru dan-21:

Connor Roberts (Cheltenham Town), Danny Ward (Lerpwl), Daniel Alfei (Abertawe - ar fenthyg gyda Wrecsam), Lee Evans (Casnewydd), Kieron Freeman (Derby County), Jonathan Meades (AFC Bournemouth - ar fenthyg gyda AFC Wimbledon), Scott Tancock (Abertawe), Joe Walsh (Crawley Town), Billy Bodin (Torquay United), Elliott Hewitt (Ipswich Town), Emyr Huws (Manchester City), Lloyd Isgrove (Southampton), Tom Lawrence (Manchester United), Lee Lucas (Abertawe), Wes Burns (Bristol City), Jake Cassidy (Wolverhampton Wanderers), Chris Dawson (Leeds United).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol