Pryder wrth i achosion o'r frech goch godi i 316
- Cyhoeddwyd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn cael y brechlyn MMR
Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod nifer yr achosion o'r frech goch yn ardal Abertawe a Phort Talbot wedi codi i 316.
Cofnodwyd 64 achos newydd dros yr wythnos ddiwethaf.
Mae 42 o bobl eisoes wedi cael triniaeth yn yr ysbyty ac mae 'na rybudd y gallai rhai cleifion gael cymhlethdodau difrifol gyda'u golwg a'u clyw, neu hyd yn oed gael niwed i'r ymennydd neu farw, maes o law.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi galw eto ar rieni i sicrhau bod eu plant yn derbyn y brechlyn MMR, sy'n eu diogelu rhag yr haint, cyn gynted â phosib.
Bellach mae'r frech goch wedi taro 111 o ysgolion uwchradd a chynradd, meithrinfeydd a grwpiau chwarae.
Mae'r rhan fwyaf o'r achosion diweddar wedi'u cofnodi yn ardal Abertawe ond mae 'na rhai achosion eraill ar draws Cymru, yn enwedig yn y canolbarth a'r gorllewin.
'Gallu lladd'
Dywedodd Dr Marion Lyons, cyfarwyddwr gwarchod iechyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Mae'r frech goch yn glefyd heintus iawn ac fe fydd 90% o bobl sydd heb eu brechu yn ei ddal.
"Allwn ni ddim pwysleisio digon fod y frech goch yn salwch sy'n gallu lladd, neu adael pobl gyda chymhlethdodau parhaol gan gynnwys niwed difrifol i'r ymennydd. Yr unig ffordd o amddiffyn yw'r brechlyn MMR, sy'n ddiogel ac yn hynod effeithiol.
"Mae'r mwyafrif yn gwella ond mae posibilrwydd prin o gymhlethdodau, gan gynnwys afiechyd y llygaid, niwed i'r ymennydd a hyd yn oed farwolaeth."
Dylai rhieni plant rhwng un a 18 oed sydd heb gael eu brechu gysylltu'n syth gyda'u meddyg teulu am gyngor a threfnu i gael brechiad cyn gynted â phosib.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2013