Busnesau'n pryderu am oedi cynllunio

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Cyngor Sir Fynwy
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond 43% o geisiadau cynllunio i Gynro Sir Fynwy gafodd eu hystyried o fewn targed wyth wythnos Llywodraeth Cymru

Mae perchnogion busnesau bach yn Sir Fynwy yn dweud eu bod yn rhwystredig gydag oedi yn y broses gynllunio yn yr awdurdod lleol.

Doedd Cyngor Sir Fynwy ond wedi ystyried 43% o'u ceisiadau o fewn y targed amser o wyth wythnos a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ,o'i gymharu â chyfartaledd o 70% trwy Gymru.

Dywed Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru bod oedi mewn penderfyniadau cynllunio yn gallu atal busnesau rhag tyfu a chreu swyddi.

Fe wnaeth cynghorau Sir Benfro a Phen-y-bont ar Ogwr ystyried 84% o'u ceisiadau o fewn yr wyth wythnos, ond fe wnaethon nhw hefyd dderbyn ychydig yn llai o geisiadau.

Sir Fynwy wnaeth ystyried y ganran leiaf o geisiadau o fewn yr amser penodol yn 2011 hefyd.

Fe gafodd 22,839 o geisiadau cynllunio eu cyflwyno i'r 22 awdurdod lleol a'r tri pharc cenedlaethol y llynedd.

'Cwtogi gallu busnesau'

Dywedodd Iestyn Davies, ar ran Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru:

"Mae system gynllunio yn gadael i fusnesau gynllunio i newid gyda'r amser - i sicrhau bod y cyfarpar a'r isadeiledd gyda nhw i dyfu ac i gyfrannu at yr economi.

"Pan bod y system yn un helaeth ac yn cymryd llawer o amser mae hynny'n cwtogi gallu busnes i dyfu.

"Mae'n amlwg bod llywodraethau ar draws Prydain gyfan, ond yn enwedig yma yng Nghymru, yn barod i ystyried rôl cynllunio yn nhermau datblygiad economaidd.

"Ond ar y foment dwi ddim cweit yn siŵr os yw hynny wedi creu newid diwylliant yn yr awdurdodau cynllunio, a bod newid go iawn wedi digwydd yn y ffordd y'n ni'n mynd o gwmpas cynllunio."

Ardaloedd cadwraeth

George Ashworth yw pennaeth cynllunio a menter ar gyngor Sir Fynwy, a dywedodd:

Disgrifiad o’r llun,

Un cais gafodd ei gymeradwyo oedd un cwmni Mabey Bridge i adeiladu tyrbinau gwynt mawr yng Nghâs-gwent

"Rydym bob tro'n ceisio rhoi blaenoriaeth i ddatblygiadau sy'n bwysig yn economaidd, er enghraifft fe gafodd y cais mawr i gynhyrchu tyrbinau gwynt gan gwmni Mabey Bridge yng Nghas-gwent ei gymeradwyo mewn llai nag wyth wythnos.

"Gyda chefnogaeth aelodau rydym yn aml yn ceisio trafod gwelliannau i gynlluniau yn hytrach na chymryd y cam cyflymach o wrthod y cais, ac mae hynny i raddau yn egluro pam fod gennym gyfradd uchel o gymeradwyaeth i geisiadau.

"Gyda chymaint o ardaloedd cadwraeth o fewn ardal yr awdurdod, yn aml mae gofyn statudol arnom i beidio gwneud penderfyniad ar gais cynllunio tan i ni dderbyn ymateb gan nifer o gyrff allweddol, ac aros am asesiadau.

"Gan mai dim ond yn ystod rhai tymhorau y mae modd cynnal rhai o'r asesiadau yma, mae hynny'n gallu ychwanegu'n sylweddol at oedi yn Sir Fynwy."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol