Trafod uno cynghorau wrth edrych ar ddyfodol y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
CymraegFfynhonnell y llun, bbc

Mae cyn Aelod Seneddol wedi awgrymu creu un cyngor rhanbarthol ar gyfer y gorllewin, wrth i ddyfodol cymunedau Cymraeg gael ei drafod mewn cynhadledd yng Nghaernarfon ddydd Gwener.

Un o'r siaradwyr yn y gynhadledd yw Adam Price, cyn aelod seneddol Plaid Cymru, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, sy'n awgrymu uno broydd Cymraeg y gorllewin dan ofal un cyngor mawr.

Bydd Leighton Andrews AC, y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg, yn annerch y digwyddiad - sy'n cael ei gynnal gan bartneriaeth 'Hunaniaith' yn Galeri, Caernarfon.

Cafodd y gynhadledd ei threfnu yn dilyn cyhoeddi ystadegau'r cyfrifiad a oedd yn dangos fod canran siaradwyr Cymraeg wedi gostwng ers 2001, gan amlygu fod y degawd nesaf yn gyfnod allweddol i ddyfodol yr iaith.

Pwrpas y digwyddiad yw trafod y ffactorau sy'n dylanwadu ar sefyllfa'r iaith Gymraeg.

Ymhlith y materion dan sylw mae ymrwymiad Llywodraethol a deddfwriaethol, addysg Gymraeg a dwyieithog, cyfleoedd economaidd, tai a defnydd o'r Gymraeg yn gymdeithasol.

Cynghorau rhanbarthol

Mewn cyfweliad ar y Post Cynta fore Gwener, awgrymodd Adam Price bod 'na achos dros sefydlu un awdurdod rhanbarthol ar gyfer gorllewin Cymru, ac y byddai hynny'n hwb i'r iaith a'r economi yn yr ardaloedd hynny.

Meddai: "Mae angen strategaeth sy'n adfywio'r iaith ond mae angen strategaeth sy'n adfywio'r economi...yr unig ffordd i adfer yr iaith yn y gorllewin yw i adfer yr economi yn y pendraw.

Ychwanegodd ei bod yn anorfod y byddai awurdodau lleol yn cael eu had-drefnu o fewn y pum mlynedd nesa' a bod angen manteisio ar hynny o ran hybu'r iaith Gymraeg.

"Be' hoffwn i weld ydy defnyddio'r cyfle euraid hwn i uno'r broydd Cymraeg ar hyd y gorllewin, o Benllech i Borth Tywyn, a chreu un awdurdod rhanbarthol grymus ar gyfer y gorllewin. Cyngor fydd yn gallu mynd â'r maen i'r wal," meddai Mr Price.

Cafodd y gynhadledd ddydd Gwener ei threfnu gan bartneriaeth Hunaniaith.

Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd a chynrychiolydd Hunaniaith: "Sefydlwyd Hunaniaith yn 2009 fel partneriaeth strategol i hybu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yng Ngwynedd.

"Mae'r gynhadledd hon yn gyfle i glywed siaradwyr blaenllaw ar lefel Cymru ac ar lefel ryngwladol yn cyflwyno strategaethau a syniadau amgen ar gyfer cynllunio iaith."