Streic cyfreithwyr am gymorth cyfreithiol?
- Cyhoeddwyd
Mae bargyfreithiwr o Gymru wedi rhybuddio y gallai cyfreithwyr fynd ar streic er mwyn gwrthwynebu cynlluniau llywodraeth y DU i gwtogi cymorth cyfreithiol.
Dywed Andrew Taylor y gallai cyflwyno cystadlu am waith cyfreithiol weld nifer o gwmnïau cyfreithiol bach yn cau.
Mae'r glymblaid yn San Steffan yn ceisio cwtogi'r bil am gymorth cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr o £2 biliwn.
Mae'n dweud bod rhai achosion yn costio hyd at £15 miliwn, ac mae'n pryderu am gadw hyder y cyhoedd yn y system.
Ymgynghoriad
Bydd modd arbed hyd at £350 miliwn drwy wrthod cymorth cyfreithiol ar gyfer achosion sifil gan gynnwys tribiwnlysoedd cyflogaeth, achosion teuluol, achosion o esgeulustod clinigol ac achosion ysgaru.
Ym mis Ebrill fe fydd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Chris Grayling yn dechrau ymgynghoriad i gyflwyno cystadlu am dendrau er mwyn torri'r gost o gymorth cyfreithiol mewn achosion troseddol.
Byddai hynny'n golygu y bydd cwmnïau bach yn cystadlu am waith i amddiffyn pobl sy'n wynebu achosion troseddol.
'Diddymu system dda'
Dywedodd Mr Taylor, sy'n gweithio i gwmni yng Nghaerdydd ac wedi bod yn gweithio ers 18 mlynedd, wrth raglen Sunday Politics BBC Cymru y bydd cwmnïau mawr gyda chyfreithwyr llai profiadol yn mynd â chyfan helaeth o'r gyllideb cymorth cyfreithiol.
"Dydyn nhw ddim yn gyfreithwyr - does ganddyn nhw ddim mo'r profiad," meddai.
"Bydd y ddarpariaeth o wasanaeth cyfreithiol i bobl gyffredin yng Nghymru yn lleihau.
"Mae'r llywodraeth yma'n mynd i ddiddymu sustem dda iawn a sustem gyfreithiol o'r radd flaenaf y mae wedi cymryd cannoedd o flynyddoedd i sefydlu a gwella, a dros nos fe allen nhw gael gwared ar hynny a'n gadael gydag anhrefn cyfreithiol.
"Os nad yw'r llywodraeth glymblaid yma'n dechrau gwrando ar gyfreithwyr, barnwyr a phobl yn y sustem s'n gwneud y gwaith ac yn gweld bod y sustem yma yn mynd o'i le, yna mae yna debygrwydd y byddwn yn gweithredu'n uniongyrchol.
"Os fyddwn ni'n streicio, nid gwneud hynny am godiad cyflog y byddwn ni mae hynny'n sicr.
"Rydym wedi gweld ein cyflogau'n cael eu cwtogi dros y ddeng mlynedd diwethaf, ond fe fyddwn yn streicio ac yn gweithredu'n ddiwydiannol er mwyn gwarchod hawliau'r unigolyn."
Costau uchel
Mewn datganiad dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Rydym yn dal i wario £1 biliwn ar gymorth cyfreithiol troseddol bob blwyddyn, a phan yr ydych yn edrych ar y costau - gyda rhai achosion yn costio rhwng £10m a £15m yr un - maen nhw'n ymddangos yn uchel.
"Er bod gennym bob rheswm i fod yn falch o'r sustem gymorth cyfreithiol rydym yn bryderus am hyder y cyhoedd yn lefel yr arian sy'n cael ei wario, ac nid oes modd bellach o osgoi edrych ar y system gyfan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2012