'Dim gambl' ar ffitrwydd Gareth Bale

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Gadawodd Gareth Bale y cae ar yr egwyl yn erbyn Yr Alban

Mae rheolwr Cymru Chris Coleman yn dweud na fydd yn peryglu ffitrwydd Gareth Bale yn erbyn Croatia yn y gêm ragbrofol bwysig nos Fawrth.

Bydd Cymru'n croesawu Croatia i Stadiwm Liberty yn Abertawe mewn gêm y mae'n rhaid ei hennill er mwyn cadw'r gobeithion o gyrraedd y rowndiau terfynol yn Brasil yn 2014 yn fyw.

Er bod Bale ei hun wedi dweud ar wefan Twitter ei fod yn iawn i chwarae, doedd ei reolwr ddim mor siŵr.

Bu Bale yn ymarfer gyda'r garfan ddydd Sul sy'n rhoi rhywfaint o hwb i'r garfan.

Gadawodd Bale y cae yn y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban nos Wener cyn yr ail hanner, a chredir mai firws i'w stumog oedd y rheswm yn hytrach nag anaf i'w ffêr oedd hefyd wedi creu trafferth iddo cyn y gêm.

Anghydweld

Dywedodd Coleman nad yw'n barod i gamblo gyda ffitrwydd Bale.

"Dim ond am 45 munud yr oedd Gareth gyda ni. Mae e wedi bod yn sâl ac wedi cael anaf i'w ffêr, ond roedd e'n benderfynol o chwarae.

"Fe gafodd ergyd arall i'r ffêr ac roedd rhaid i ni ei dynnu oddi ar y cae.

"Dydw i ddim yn gwybod os fydd e'n iawn - mae'r 24 awr nesaf yn allweddol.

"Os na fydd e'n barod fedrwn ni ddim cymryd risg er mwyn bod yn deg gyda Tottenham."

Ond ar ei wefan Twitter, roedd Bale wedi dweud: "Does dim byd yn bod ar fy ffêr.

"Fe wnes i adael y cae oherwydd feirws stumog. Ddyliwn i fod yn OK ar gyfer nos Fawrth."

Mae Cymru yn drydydd yn eu grŵp rhagbrofol y tu ôl i Wlad Belg a Croatia wedi pum gêm.

Dim ond buddugwyr bob grŵp sy'n sicr o'u lle yng Nghwpan y Byd, ond mae'r timau sy'n ail yn mynd i gemau ailgyfle.

Mae Aaron Ramsey wedi ei wahardd o'r gêm yn erbyn Croatia yn dilyn ei gerdyn coch yn yr eiladau olaf yn erbyn Yr Alban.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol