Yr Alban 1-2 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Yr Alban v CymruFfynhonnell y llun, SNS
Disgrifiad o’r llun,

Ben Davies yn brwydro am y bêl

Cafwyd ail fuddugoliaeth i Gymru yng ngrŵp rhagbrofol Cwpan y Byd 2014, a hynny mewn modd rhyfeddol o debyg i'r ffordd y curwyd yr Alban yng Nghaerdydd ym mis Hydref o 2-1.

Mae Cymru nawr yn codi i'r trydydd safle yn y grŵp.

Fel yn y gêm honno aeth Yr Alban ar y blaen, gyda'r Cymry yn arddangos cymeriad a hyder i frwydro nôl, gyda dwy gôl o fewn 93 eiliad yn troi'r pendil o blaid Cymru.

Tîm Chris Coleman a feistrolodd yr hanner cyntaf, ond heb greu'r un cyfle euraid.

Ergyd drom felly oedd gweld yr Albanwyr yn mynd ar y blaen wedi 47 munud ar ôl chwip o gic gornel gan Charlie Mulgrew a Grant Hanley yn cael y gorau ar Sam Ricketts i benio i'r rhwyd o chwe llath.

Roedd cryn ddyfalu cyn y gêm a fyddai Gareth Bale yn chwarae ar ôl i'r ymosodwr o glwb Tottenham Hotspur ddiodde' gyda firws drwy'r wythnos, yn ogystal ag anaf i'w ffêr.

Tawedog ydoedd yn yr hanner cyntaf, serch hynny, yn amlwg ddim yn 100%, ac wedi dioddef tacl drom tua diwedd yr hanner cyntaf, ni ddaeth yn ôl wedi'r egwyl.

Trobwynt

Yr Alban ddechreuodd yr ail hanner yn gryfach, ond daeth trobwynt y gêm pan faglwyd Chris Gunter ychydig o fewn y cwrt cosbi gan dacl blêr Robert Snodgrass.

Cafodd Snodgrass ei anfon o'r cae gan fod y dacl wedi teilyngu ei ail gerdyn melyn. Aaron Ramsey lwyddodd o'r smotyn.

Funud a hanner yn ddiweddarach cafodd croesiad Andy King ei benio i'r rhwyd gan Hal Robson-Kanu o wyth llath.

Bydd Aaron Ramsey yn colli'r gêm nos Fawrth yn erbyn Croatia wedi iddo gael ei anfon o'r cae wedi 90 munud am dacl drwstan ar James McArthur.

Dywedodd Chris Coleman ar ôl y gêm: "Fe wnaeth y bechgyn bopeth a ofynnwyd iddyn nhw, gan fod yn amyneddgar a phasio'r bêl o gwmpas.

"Roedd hon yn fuddugoliaeth haeddiannol, ac mae ein golygon yn troi nawr at y gêm yn Abertawe nos Fawrth".

Cymru: Myhill, Gunter, Ricketts, Ashley Williams, Davies, Collison, Ramsey, Ledley, Bale, Robson-Kanu, Bellamy.

Eilyddion: Price, Lynch, Richards, Collins, King, Vaughan, Church, Vokes, Jonathan Williams, Easter, Nyatanga, Fon Williams.

Yr Alban: McGregor, Hutton, Caldwell, Hanley, Mulgrew, Burke, McArthur, Dorrans, Snodgrass, Maloney, Fletcher.

Eilyddion: Gilks, Mackay-Steven, Whittaker, Webster, Adam, Naismith, Miller, Commons, Rhodes, Bannan, Martin, Marshall.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol