Bwrdd Iechyd angen arbed £1m yr wythnos

  • Cyhoeddwyd
Nyrs (cyffredinol)Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd diffyg o £20 miliwn yn cael ei drosglwyddo o'r flwyddyn ariannol bresennol i'r un nesa'

Mae angen i fwrdd iechyd arbed yr hyn sy'n cyfateb i £1 miliwn yr wythnos er mwyn peidio gwneud colled yn y flwyddyn ariannol nesa'.

Yn ôl adroddiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, mae angen gwneud £46 miliwn o arbedion a bydd angen gofyn i Lywodraeth Cymru am ragor o arian.

Mae cynllun blynyddol y bwrdd wedi dod o hyd i £18 miliwn o arbedion hyd yma.

Mae'r Gweinidog Iechyd newydd, Mark Drakeford, wedi dweud ei fod yn disgwyl eglurhad llawn os yw byrddau'n gorwario.

Cafodd y manylion am y sefyllfa ariannol eu cyhoeddi yn y cynllun blynyddol ar gyfer 2013/14, fydd yn cael ei ystyried gan y bwrdd iechyd ddydd Mawrth.

'Her anferth'

Mae'r bwrdd iechyd, sydd â chyllid o £1.3 biliwn, yn gofalu am boblogaeth o 500,000 o bobl ac yn darparu gwasanaethau yn ardaloedd Abertawe, Pen-y-bont a Chastell-nedd Port Talbot.

"Mae'r bwrdd iechyd yn wynebu her anferth o ran arbedion yn 2013/14 a'r cyfnod i ddod, fydd yn galw am benderfyniadau anodd iawn ar wasanaethau," meddai'r adroddiad.

"Mae'r arbedion ariannol a wnaethpwyd yn ddiweddar wedi bod yn sylweddol iawn, ac mae cost y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y bwrdd yn ffafriol iawn o'i gymharu â byrddau eraill."

Mae 'na ddiffyg o £20 miliwn yn cael ei drosglwyddo o'r flwyddyn ariannol bresennol i'r un nesa', o'i gymharu â £26 miliwn mewn costau "anorfod" gan gynnwys codiadau cyflog o 1% a chynnydd ym mhrisiau cyffuriau.

Mae 'na hefyd £11 miliwn o arian fyddai'r bwrdd yn dymuno ei wario ar nifer o bethau, fel staff newydd, ond mae'r swm yma'n cael ei gyfri yn un "dewisol".

Dyw lefel yr arbedion sydd eu hangen ddim yn amlwg eto ac mae 'na "risg mawr wrth geisio cyflawni'r targed ariannol yn 2013/14 o'r herwydd".

'Hyderus'

Ychwanegodd yr adroddiad: "Bydd y bwrdd iechyd yn paratoi cais am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn 2013/14 a dros gyfnod o dair i bum mlynedd fydd yn ei gwneud yn bosib mynd i'r afael â'r heriau hyn."

Dywedodd y gweinidog iechyd newydd ddydd Llun nad oedd wedi diystyru'r posibilrwydd y byddai rhai byrddau iechyd yn methu mantoli eu cyfrifon erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Ond dywedodd Mr Drakeford ei fod yn hyderus y gallai'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru "dorri'r got yn ôl y brethyn".

Roedd ei ragflaenydd, Lesley Griffiths, wedi awgrymu y byddai hi'n barod i ddiswyddo rheolwyr os nad oeddynt yn llwyddo i fantoli'r cyfrifon cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Yn ôl Mr Drakeford, a gafodd ei benodi yn lle Ms Griffiths yn gynharach yn y mis, fyddai o ddim yn ystyried ymateb mor "fyrbwyll" ond y byddai yna oblygiadau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol