Achosion o'r frech goch yn dyblu mewn tair wythnos yn ardal Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Brechlyn MMRFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn cael y brechlyn MMR

Mae achosion o'r frech goch yn ardal Abertawe wedi mwy na dyblu mewn tair wythnos, gyda dros 430 o achosion wedi'u cofnodi erbyn hyn.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae nifer y bobl sy'n derbyn y brechlyn MMR yn rhy isel i atal yr haint rhag lledu ac maen nhw unwaith eto yn cynghori rhieni a gofalwyr i sicrhau bod plant rhwng un ac 18 oed yn cael eu brechu.

Mae'r corff yn cydnabod bod 'na epidemig o'r haint yn ne orllewin Cymru erbyn hyn ac maent yn ofni y gallai nifer yr achosion godi i 1,000 erbyn diwedd mis Ebrill os yw'r patrwm yn parhau.

Erbyn dydd Mawrth roedd nifer yr achosion wedi codi i 432 yn ardal Abertawe, o'i gymharu â 200 ar ddechrau mis Mawrth.

Cafodd 116 achos newydd eu cofnodi'r wythnos ddiwetha' yn unig, gyda 51 o bobl yn gorfod cael triniaeth yn yr ysbyty.

Er bod 'na rhai achosion mewn rhannau eraill o Gymru, mae'r mwyafrif yn ardaloedd byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Powys a Hywel Dda.

'Cymhlethdodau difrifol'

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn pwysleisio bod unrhyw blant sydd heb gael eu brechu yn debygol iawn o ddal yr haint os ydyn nhw'n dod i gysylltiad ag unrhyw un sydd â'r frech goch.

Maen nhw hefyd yn rhybuddio y gallai rhai cleifion gael cymhlethdodau difrifol gyda'u golwg a'u clyw, neu hyd yn oed gael niwed i'r ymennydd neu farw, maes o law.

Dywedodd Dr Marion Lyons, cyfarwyddwr gwarchod iechyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Mae'r frech goch yn lledu'n arswydus o gyflym mewn rhannau o Gymru. Mae'n bryder fod degau ar filoedd o blant ar draws Cymru sydd heb eu brechu, ond mae ein rhaglen fonitro ni'n dangos mai dim ond cynnydd bychan sydd 'na yn nifer y rhai sy'n cael y brechlyn MMR ar hyn o bryd.

"Os nad yw nifer y plant sy'n cael y brechiad MMR yn cynyddu'n ddramatig, bydd y frech goch yn parhau i ledaenu'n gyflym, gan gyrraedd y lefelau a welwyd yn Nulyn yn 1999/2000. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd 1,200 o blant eu heintio a bu farw tri ohonynt.

"Gallai brechiad syml a diogel gan eich meddyg teulu amddiffyn plentyn, arbed eu bywyd, a helpu i amddiffyn plant eraill hefyd. Dyma'r unig beth allwch chi wneud ar hyn o bryd, a byddwn yn annog rhieni i gysylltu â'u meddygon teulu heddiw i sicrhau bod brechlyn MMR eu plant yn gyfredol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol