Corff amgylcheddol yn dechrau

  • Cyhoeddwyd
Alun Davies
Disgrifiad o’r llun,

Y gweinidog: 'Yn hollbwysig bod yr amgylchedd yn cael ei reoli yn y modd mwyaf effeithiol ac effeithlon posib.'

Mae corff amgylcheddol newydd wedi dechrau ei waith ddydd Llun.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn mabwysiadu dyletswyddau Asiantaeth yr Amgylchedd, y Comisiwn Coedwigaeth a'r Cyngor Cefn Gwlad.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn un o'r cyrff cyhoeddus cyntaf yn y byd fyddai'n cynnwys buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yn y ffordd y mae'n rheoli adnoddau naturiol ac yn gwella'r amgylchedd.

Nod y corff yw sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru'n cael eu cynnal, eu gwella a'u defnyddio'n gynaliadwy.

Yn y flwyddyn gyntaf bydd yn:

• gwarchod pobl a'u cartrefi, cyn belled ag sy'n bosibl, rhag digwyddiadau amgylcheddol megis llifogydd a llygredd;

• cynnal a gwella ansawdd yr amgylchedd, gan gynnwys hyrwyddo cadwraeth natur, mynediad a hamdden;

• darparu cyfleoedd i bobl ddysgu, defnyddio ac elwa ar gyfoeth naturiol Cymru;

• cefnogi economi Cymru trwy ddefnyddio adnoddau naturiol i gefnogi swyddi a menter;

• helpu busnesau i ddeall a gweithio gydag effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y cynigion fydd yn cael eu cyflwyno;

• helpu i wneud adnoddau'r amgylchedd a naturiol yn fwy cadarn rhag newid hinsawdd a phwysau eraill.

'Yn hanfodol'

Dywedodd Gweinidog Adnoddau Naturiol Alun Davies: "Mae'r amgylchedd naturiol yn hanfodol i'n heconomi yma yng Nghymru.

"Felly mae'n hollbwysig y caiff ei reoli yn y modd mwyaf effeithiol ac effeithlon posib.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ei greu oherwydd ein bod yn credu y bydd un corff yn arwain at ffordd symlach o weithio a bydd yn sicrhau darpariaeth fwy effeithiol a gwell gwerth am arian.

'£8 biliwn'

Dywedodd cadeirydd y corff Peter Matthews: "Rydym yn wynebu llawer o heriau - ein cymunedau, ein heconomi a'n hamgylchedd.

"Rwy'n siŵr y bydd yr adnoddau naturiol sydd gennym yng Nghymru'n gallu chwarae rhan wrth eu taclo.

"Mae'r amgylchedd naturiol yn werth £8 biliwn i economi Cymru ac fel Cyfoeth Naturiol Cymru, rydym eisiau adeiladu ar hynny.

Dywedodd Emyr Roberts, y prif weithredwr: "Byddwn hefyd yn dechrau ail ffurfio'r gwaith rydym yn ei wneud gydag agwedd ffres a chyfeiriad newydd - i gael yr amgylchedd i wneud rhagor i bobl, i economi ac i fywyd gwyllt Cymru."