Rygbi: Gwahoddiad i drafod cytundebau canolog
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud eu bod nhw'n gwahodd y pedwar rhanbarth Cymreig i drafod cyflwyno cytundebau canolog i rai o brif chwaraewyr Cymru.
Daw'r datblygiad wrth i'r ffrae barhau am ddyfodol asgellwr y Scarlets a Chymru, George North.
Mewn datganiad dywedodd yr undeb: "Rydym yn gofyn y rhanbarthau i anghofio am eu penderfyniad i beidio â defnyddio chwaraewyr â chytundeb canolog ..."
Ddydd Llun fe gyhuddodd yr undeb ranbarth y Scarlets o drafod gwerthu North i glwb arall heb yn wybod i'r chwaraewr.
Mae 'na amheuaeth wedi bod am ddyfodol North - ar ôl i BBC Cymru ddatgelu dros y penwythnos fod y rhanbarth wedi cynnal trafodaethau gyda Northampton am drosglwyddiad posib y chwaraewr 20 oed.
Mae Undeb Rygbi Cymru, er hynny, yn dweud bod y chwaraewr wedi cael ei gynnig i glybiau yn Ffrainc heb yn wybod iddo.
Cydweithio
Eisoes mae nifer o sêr Cymru wedi symud dros Glawdd Offa neu i Ffrainc yn bennaf am resymau ariannol.
Ond mae'r undeb wedi dweud eu bod am gydweithio gyda'r rhanbarthau er mwyn cadw prif chwaraewyr yng Nghymru.
Cytundebau canolog yw un posibilrwydd ble byddai'r chwaraewyr wedi'u cyflogi gan yr undeb yn lle'r rhanbarth.
Ond mae'n ymddangos nad yw'r rhanbarthau'n ffafrio'r syniad hwnnw.
Mae'r undeb wedi dweud eu bod yn anfon llythyr at y pedwar rhanbarth fore dydd Mawrth, yn eu gwahodd i drafod y sefyllfa.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2013