George North: Ffrae rhwng undeb a rhanbarth

  • Cyhoeddwyd
George NorthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan North flwyddyn ar ôl ar ei gytundeb gyda'r Scarlets

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi honni bod y Scarlets wedi dechrau trafod dyfodol George North â thimau Ffrainc heb roi gwybod i'r chwaraewr.

Hon yw'r ffrae ddiweddara' rhwng yr undeb a'r rhanbarthau.

"Yn 2012 dechreuodd y Scarlets drafod trosglwyddo'r chwaraewr â chlybiau y tu allan i'r pedair gwlad," meddai datganiad yr undeb.

"Doedd e ddim yn fodlon ystyried Ffrainc ond cytunodd y byddai'n barod i fynd os mai hwn oedd dymuniad y clwb."

Cynnig

Mae cytundeb North, sy'n 20 oed, yn dod i ben ar ddiwedd tymor 2013-14 ond mae Northampton wedi gwneud cynnig amdano ac yn gobeithio y bydd yn ymuno ar ddiwedd tymor 2012-13.

Honnodd yr undeb eu bod yn Awst 2012 wedi cynnig trafod trefnu cytundebau chwaraewyr fel North yn ganolog.

Yn Nhachwedd 2012, meddai, roedd adroddiad PriceWaterhouseCoopers yn beirniadu trefn ariannol a rheoli'r rhanbarthau.

"Dyw'r undeb ddim wedi derbyn unrhyw ymateb ystyrlon oddi wrth y rhanbarthau," meddai datganiad Undeb Rygbi Cymru.

Dywedodd fod yr undeb wedi ystyried pecyn ariannol fyddai'n helpu cadw North yng Nghymru.

'Rhoi'r gorau'

"Yn ddiweddar, mae'r undeb wedi cael gwybod fod y rhanbarthau wedi llofnodi cytundeb sy'n golygu na fydden nhw'n chwarae unrhywun sydd wedi llofnodi cytundeb canolog â ni.

"Rydym yn annog y rhanbarthau i roi'r gorau i hyn a dod yn ôl i'r ford i drafod."

Ar raglen The Back Page dywedodd Cadeirydd Rhanbarthau Cymru, Stuart Gallacher, fod trafodaethau cychwynnol wedi bod yn anelu at sefydlu cystadleuaeth rhwng timau Cymru a Lloegr.

"Ond rhaid cyfadde' bod y rhwystrau'n enfawr," meddai.

Mae'r Scarlets, fel pob rhanbarth arall yng Nghymru, yn cael trafferthion ariannol ac maen nhw wedi cyfyngu'r swm fydd yn cael ei wario ar gyflogau'r tymor nesa' i £3.5 miliwn.

Mae nifer o chwaraewyr Cymru wedi cael eu denu o Gymru dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd addewid cyflog gwell yn Lloegr neu Ffrainc.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol